Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21: Camau gweithredu o'r cyfarfod ar 4 Mehefin 2020 – 22 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN1 - Llythyr gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 – 17 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21

NDM7335 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; 

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a 

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7335 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; 

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a 

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

24

1

55

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 04/06/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Matthew Denham Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol

 

Papurau ategol:

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21

Papur 2 – Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – 29 Mai 2020

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor:

 

·         gan nodi faint o gyllid ychwanegol cyffredinol ar gyfer COVID-19 y bydd pob bwrdd iechyd yn ei gael yn y gyllideb atodol hon;

·         gan rannu dangosyddion perfformiad allweddol yr adran iechyd ar gyfer mesur effeithiolrwydd y gwariant gwerth £57 miliwn i gefnogi'r Strategaeth Profi Olrhain Diogelu, o ran y cyfalaf sy'n ofynnol i sefydlu'r rhaglen a'i chostau gweithredu;

·         a chan nodi canlyniad ei thrafodaethau â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog.