Cyfarfodydd

P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb pellach a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a nododd fod y Llywodraeth wedi gofyn i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ystyried amgylchiadau unigol gweithwyr cronfa’r GIG yn y sefyllfa hon. Yn sgîl hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer o gamau eraill y gallai eu cymryd ar hyn o bryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy’n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo ystyried cyhoeddi cyfathrebiadau clir i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y dylid cefnogi gweithwyr cronfa y GIG, sydd wedi gweithio sifftiau rheolaidd ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd beichiogrwydd neu fregusrwydd clinigol, yn ariannol yn ystod yr amgylchiadau presennol.

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy’n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod toriad yr haf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i'r mater hwn, ac am gasgliadau’r ystyriaeth.

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb ffurfiol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r ddeiseb, yn y gobaith y gallai hwnnw gynnwys gwybodaeth bellach o ran y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fyrddau iechyd ailystyried.