Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

NDM7476 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.22

NDM7476 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - Gohiriwyd tan 17 Tachwedd 2020

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan 17 Tachwedd 2020.

 


Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a oedd yn egluro na fyddai'r Pwyllgor yn llunio adroddiad newydd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethi Annomestig (Toiledau Cyhoeddus).  Roedd y Pwyllgor eisoes wedi adrodd ar y Memorandwm ar Fil blaenorol ar yr un pwnc, a gafodd y fwyell gan Etholiad Cyffredinol 2019.

 

 


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - trafod yr adroddiad drafft.

CLA(5)-18-20 – Papur 18 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ac fe’i derbyniwyd.  


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

CLA(5)-17-20 – Papur 20 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.