Cyfarfodydd

P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy'n marw o Covid-19 neu gyda'r feirws

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mynegodd y Pwyllgor ei siom nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i sefydlu cynllun o'r math a gynigiwyd gan y ddeiseb. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad, gyda gofid, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd i symud y ddeiseb yn ei blaen yng ngoleuni'r ymatebion a gafwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a mynegodd ei siom nad yw cynllun o'r math hwn yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am esboniad a gwybodaeth fanylach am yr opsiynau a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru, mewn perthynas ag ymarferoldeb a chostau sefydlu cynllun i dalu costau angladdau gweithwyr y GIG sy’n marw o COVID-19 neu gyda’r feirws.

 


Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy'n marw o Covid-19 neu gyda'r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ddiolch iddo am ystyried y mater hwn ac i ofyn a ystyriwyd yr opsiwn ar gyfer gweinyddu'r cynllun trwy gartrefi angladdau a thalu swm sefydlog sy'n cynrychioli cyfartaledd cost angladd fel rhan o hyn, fel a gynigiwyd gan y deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i nodi bwriad y Gweinidog i ystyried rhagor o wybodaeth ac i ysgrifennu eto at y Pwyllgor ar ôl cael hon.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a nododd y cadarnhad a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod gan deuluoedd staff locwm a staff asiantaeth, a dinasyddion nad ydynt yn dod o Brydain sy'n gweithio yn y GIG hawl i wneud cais am y Cynllun Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynegi ei 'gefnogaeth i farn y deisebwyr' y dylid talu am gostau angladd sylfaenol staff y GIG sy'n marw o ganlyniad i gael Covid-19 drwy eu gwaith, yn ychwanegol at y Cynllun Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth.

 


Cyfarfod: 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn:

·         codi'r pwyntiau a wnaed gan y deisebwyr ynghylch hawliau teuluoedd staff locwm a staff asiantaeth, a dinasyddion nad ydynt yn Brydeinig sy'n gweithio yn y GIG;

·         gofyn a fyddai gweithwyr yn y categorïau hyn yn dod o dan y Cynllun Marwolaeth mewn Gwasanaeth COVID-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol;

·         cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a fyddai modd ymestyn y cynllun i weithwyr hanfodol eraill.