Cyfarfodydd

P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drennau yn Sanclêr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drenau yn Sanclêr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr. Cefnogwch y cais am orsaf drenau yn Sanclêr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd y ffaith mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y mater hwn fel rhan o’i Chronfa Gorsafoedd Newydd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi’r cais am orsaf newydd yn Sanclêr, gan gytuno hefyd i gau’r ddeiseb. Hefyd, cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn ac i fynegi eu siom na fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng Nghymru.