Cyfarfodydd

SL(5)534 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 SL(5)534 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-13-20 – Papur 14 – Adroddiad

CLA(5)-13-20 – Papur 15 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth.


Cyfarfod: 29/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

NDM7320Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

NDM7320Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.   

Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidlais heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.

Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr.

Gan fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar gyfer pleidleisio, cafwyd un bleidlais fel a ganlyn.

Ar ran y Grŵp Llafur a'r llywodraeth – Vikki Howells (30 pleidlais)

Ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru – Angela Burns (11 pleidlais)

Ar ran Plaid Cymru – Sian Gwenllian (9 pleidlais)

Ar ran Plaid Brexit – Mark Reckless (4 pleidlais)

Gareth Bennett

Neil Hamilton

Neil McEvoy

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

6

57

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 28/04/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 SL(5)534 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-12-20 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-12-20 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-12-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-12-20 – Papur 8 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Llywydd, 3 Ebrill 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.