Cyfarfodydd

P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth Cymru a Costain wedi cadarnhau y bydd Opsiwn B yn cael ei weithredu, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Nododd rwystredigaeth y deisebwyr ond cytunwyd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod arddangosfeydd cyhoeddus a gwaith dilynol wedi cael eu gohirio yn sgil y Coronafeirws, cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y deisebwyr i lythyr Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru cyn ystyried pa gamau pellach y gellid eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb.