Cyfarfodydd

P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o 4 i 16 mlwydd oed yn ein Hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymatebion y Gweinidog i’r ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, o ystyried y diffyg cyswllt a gafwyd gan y deisebydd a’r gwaith craffu sy’n cael ei wneud ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

 

 


Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn pa waith sy’n cael ei wneud i ddatblygu adnoddau dysgu ar y pynciau a amlygwyd i’r Pwyllgor a phryd y bydd yr adnoddau hyn ar gael i athrawon; ac i

·         aros am ymateb y deisebydd i’r wybodaeth y mae’r Gweinidog yn ei darparu.