Cyfarfodydd

P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-949 Arbed yr hen ysgol ganolradd i ferched y bont-faen rhag ei dymchwel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu'r Pwyllgor a chanmolodd yr ymgyrchu diflino a wnaed gan y deisebydd drwy gydol y broses hon. Yn dilyn y ddadl yn y Senedd ar 16 Chwefror, daeth yr aelodau i'r casgliad eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r ddeiseb hon, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb nawr a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 16/02/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)

Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel

NDM7924 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel’ a gasglodd 5,522 o lofnodion.

P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

NDM7924 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel’ a gasglodd 5,522 o lofnodion.

P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-Faen Rhag ei Dymchwel

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 24/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i gadarnhau bod hwn yn fater byw o hyd yr hoffai’r Aelodau iddo gael ei drafod a’r bwriad i ehangu’r ddadl y tu hwnt i’r materion penodol yn y Bont-faen i roi ystyriaeth ehangach i warchod adeiladau o werth.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i dynnu sylw'r Pwyllgor Busnes at nifer o geisiadau dadl a allai fod ar ddod.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 6)

6 Papur i’w nodi - P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cynnal trafodaethau uniongyrchol â’r deisebwyr ynghylch y mater hwn.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei dymchwel.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hon o'r blaen

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog newydd er mwyn darganfod ei farn ar y mater hwn, a gofyn a oes ganddo unrhyw wybodaeth newydd i'w rhannu.

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan y deisebydd. Yng ngoleuni'r penderfyniadau a wnaed gan Cadw a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i beidio â chefnogi rhestru'r adeilad yn unol â chais y deisebwyr, a'r atebion a gafwyd i’w gohebiaeth flaenorol ar y mater hwn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod yn debygol nad yw’n gallu gwneud llawer mwy ynghylch y ddeiseb. Cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Nb. Following the meeting, in light of new information, the Committee agreed to refer the petition for further consideration by its successor committee in the next Senedd term.

D.S. Yn dilyn y cyfarfod, yng ngoleuni gwybodaeth newydd, cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb i’w thrafod ymhellach gan y Pwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ailedrych ar y posibilrwydd o ofyn am ddadl ar y ddeiseb hon yn ystod tymor yr hydref, os bydd hynny’n briodol, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlenni o ran y cais cynllunio yn y cyfamser.

 


Cyfarfod: 12/05/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn am ymateb i'r cais bod penderfyniad rhestru Cadw yn destun adolygiad gan gymheiriaid annibynnol, sef Historic England neu Historic Scotland;

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am wybodaeth ynghylch pryd y mae'n rhagweld y bydd cyfle i drafod busnes fel y ddeiseb hon yn ystod y Cyfarfod Llawn.