Cyfarfodydd

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiynau gyda'r Arglwydd Ganghellor a chyda Comisiwn y Gyfraith, a thrafododd faterion allweddol a fyddai'n cael eu codi yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyfiawnder yng Nghymru a chynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru – sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr

Mr Nicholas Paines CF, Comisiynydd y Gyfraith

Henni Ouahes, Pennaeth Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, Comisiwn y Gyfraith

Sarah Smith, Cyfreithiwr Diwygio'r Gyfraith, Comisiwn y Gyfraith

 

CLA(5)-06-21 – Papur briffio 2

CLA(5)-06-21 – Papur 3 – Llythyr oddi wrth Nicholas Paines CF, 20 Ionawr 2021

CLA(5)-06-21 – Papur 4 - Gohebiaeth oddi wrth Nicholas Paines CF, 17 Rhagfyr 2020

 

Comisiwn y Gyfraith – Papur Ymgynghori ar Dribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'i gynigion i ddiwygio system dribiwnlysoedd datganoledig Cymru.

 


Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF AS, yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder

 

CLA(5)-06-21 – Papur briffio

CLA(5)-06-21 – Papur 1 – Llythyr oddi wrth Alex Chalk AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020

CLA(5)-06-21 – Papur 2 – Llythyr at yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 19 Mehefin 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Adroddiad Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith

CLA(5)-06-21 – Papur 28 – Adroddiad Llywodraeth Cymru

CLA(5)-06-21 – Papur 29 – Datganiad ysgrifenedig, 15 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

14 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – trafod y materion allweddol

CLA(5)-05-21 – Papur 38 – Papur ar faterion allweddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Nododd y Pwyllgor y byddai'n cynnal sesiynau tystiolaeth gyda'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a chyda Chomisiwn y Gyfraith yn ei gyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 01/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Gohebiaeth â'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder: Gwneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru

CLA(5)-04-21 – Papur 33 – Llythyr gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 28 Ionawr 2021

CLA(5)-04-21 – Paper 34 – Llythyr at yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, 22 Rhagfyr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, gan nodi hefyd bod trefniadau’n cael eu gwneud i alluogi’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor fel rhan o’i ymchwiliad i wneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 25/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, Comisiwn y Gyfraith: Papur ymgynghori ar ddyfodol tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru

CLA(5)-03-21 – Papur 45 – Llythyr gan Nicholas Paines QC, Y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru, 20 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru. Mewn sesiwn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr a'r cynnig amgaeedig ynghylch yr ymgynghoriad.

 


Cyfarfod: 11/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan Gomisiwn y Gyfraith: Papur ymgynghori ar Dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru

CLA(5)-01-21 - Papur 70 - Gohebiaeth gan Gomisiwn y Gyfraith, 17 Rhagfyr 2020

CLA(5)-01-21 – Papur 71 – Datganiad ysgrifenedig, 17 Rhagfyr 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a’r datganiad ysgrifenedig.

 


Cyfarfod: 30/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Prif Weinidog: Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru

CLA(5)-35-20 – Papur 23 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 25 Tachwedd 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 24 – Llythyr at y Prif Weinidog, 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth

CLA(5)-29-20 – Papur 44 – Nodyn cryno ar ymarfer ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru

James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Trawsnewid a Datganoli Cyfiawnder, Llywodraeth Cymru

 

 

CLA(5)-29-20 – Papur briffio

CLA(5)-29-20 – Papur 1 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 28 Awst 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 2 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 23 Gorffennaf 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 3 – Llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog (tan 9.55am) a'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i ymchwiliad ynghylch Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Prif Weinidog: Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru

CLA(5)-25-20 – Papur 41 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 28 Awst 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog. Nododd y Pwyllgor y byddai'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol yn dod i sesiwn dystiolaeth ar ymchwiliad y Pwyllgor i faes Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru ar 12 Hydref 2020.

 


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru: Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru

CLA(5)-25-20 – Papur 42 – Llythyr gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 7 Medi 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

 


Cyfarfod: 03/08/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Prif Weinidog: Data ar fynediad at gyfiawnder

CLA(5)-23-20 – Papur 63 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 23 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - gohebiaeth gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf

CLA(5)-22-20 – Papur 26 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 3 Gorffennaf 2020.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr gan yr Aelod Seneddol Alex Chalk, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder - data ar fynediad at gyfiawnder

CLA(5)-22-20 – Paper 27 – Llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn ymateb i'w gais am wybodaeth ar ddata ar fynediad at gyfiawnder.

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Rhian Davies-Rees, Pennaeth Tribiwnlysoedd Cymru

 

CLA(5)-22-20 – Papur briffio

CLA(5)-22-20 - Papur 1 - Llythyr gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 26 Mehefin 2020

CLA(5)-22-20 - Papur 2 - Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 29 Mehefin 2020

CLA(5)-22-20 - Papur 3 - Adroddiad Blynyddol Cyntaf Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 9 Ebrill 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Bu'r Pwyllgor hefyd yn holi Syr Wyn ar ei ddau adroddiad blynyddol cyntaf yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

 


Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - canlyniad yr ymgynghoriad

CLA(5)-20-20 - Papur 22 - Papur eglurhaol

CLA(5)-20-20 - Papur 23 – Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ganlyniad yr ymarfer ymgynghori, a thrafododd ei flaenraglen waith. Nododd y Pwyllgor y byddai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dod i’r sesiwn dystiolaeth ar 13 Gorffennaf 2020.

 


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

CLA(5)-18-20 – Papur 11 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 4 Mehefin 2020

CLA(5)-18-20 – Papur 12 – Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol, 11 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 14)

14 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-16-20 - Papur 19 – Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur briffio gan ymchwilwyr y Senedd.


Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – briff gan gynghorydd arbenigol y Pwyllgor

CLA(5)-16-20 – Papur 18 - Adroddiad gan gynghorydd arbenigol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd cynghorydd arbenigol y Pwyllgor gyflwyniad i'r Aelodau ynghylch y gwaith y mae wedi’i wneud fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor.


Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru - trafod cynllunio’r flaenraglen waith

CLA(5)-14-20 – Papur 13 – Cynllunio’r flaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad cyfredol a chytunodd i’w drafod ymhellach ar ôl i’r ymgynghoriad gau.

 


Cyfarfod: 02/03/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i faterion yn ymwneud â chyfiawnder: Trafod penodi cynghorydd arbenigol

CLA(5)-8-20 - Papur 16 - Papur trafod

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor benodiad cynghorydd arbenigol a chytunodd arno.