Cyfarfodydd

P-05-944 Gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-944 Gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i gadw golwg ar y mater hyd nes ddiwedd y Senedd hon ac ailedrych ar y ddeiseb os bydd gwasanaethau trenau yn dychwelyd i’w hamserlenni sylfaenol yn ystod y cyfnod hwn.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-944 Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i rannu'r ddeiseb a'r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebwyr, ac i ofyn am ymateb manwl i'r materion a godwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am ddadansoddiad o'r newidiadau i wasanaethau perthnasol a'r buddion o ran amseroedd teithio a gafwyd trwy gyflwyno'r gwasanaeth cyflym rhwng y gogledd a’r de.