Cyfarfodydd

P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a nododd y gwaith diogelwch sydd wedi'i wneud ar y ffordd ers cyflwyno'r ddeiseb, gan gynnwys terfyn cyflymder newydd o 40mya. Yng ngoleuni sicrwydd y Gweinidog y parheir i fonitro cydymffurfiad â'r terfyn cyflymder newydd a'r angen am ragor o welliannau diogelwch, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim rhagor y gall ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ddiweddariad ar y gwaith gwella diogelwch a gynlluniwyd ar gyfer y rhan hon o'r A487, a gwybodaeth am unrhyw fesurau pellach sydd o dan ystyriaeth.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Cynghorydd Elfed Roberts a Liz Saville Roberts AS i gael eu barn am y gwelliannau i’r ffyrdd sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ac unrhyw fesurau diogelwch pellach sy'n ofynnol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i ofyn am ei farn am y rhan hon o'r ffordd, y gwelliannau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd a'r gwaith a gynigir yn y dyfodol.

Mynegodd yr Aelodau hefyd eu cydymdeimlad â'r deisebwyr ar eu colled.