Cyfarfodydd

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i’w hysbysu am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma yng nghyd-destun eu hymchwiliad i Fioamrywiaeth ac Ailwylltio yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a nododd fod y Llythyr Cylch Gwaith ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020/21 yn cyfeirio at fioamrywiaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn iddi roi ystyriaeth bellach i weld a yw’r adnoddau sydd ar gael i CNC yn ddigonol i sicrhau y gall flaenoriaethu gwaith ar fioamrywiaeth yn ychwanegol at ei gyfrifoldebau eraill.

 

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan y deisebwyr, gan gynnwys yn eu llythyr diweddaraf at y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i roi’r sylwadau manwl a ddarparwyd gan y deisebwyr i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am ymatebion i'r pwyntiau a godwyd, yn benodol yr awgrym y dylid cynnwys cyfeiriad penodol at fioamrywiaeth yn llythyr cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.