Cyfarfodydd
Unrhyw Fusnes Arall
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Biliau eraill y cynhelir gwaith
craffu arnynt ar hyn o bryd
Rhoddodd
y Trefnydd ddiweddariad llafar ar y ddau fil y mae’r Senedd yn craffu arnynt ar
hyn o bryd: y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Cynigiodd y Trefnydd na ddylai’r amserlenni
ar gyfer y Biliau hyn newid, ond nododd y byddai’r Llywodraeth yn agored i’r
syniad o drafod estyniad byr i’r terfyn amser ar gyfer cyfnod Ystyriaeth
Gychwynnol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) pe bai’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried bod hynny’n ddefnyddiol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y
diweddariad, a chytunodd i ymgynghori â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o ran y
dulliau arfaethedig o bennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer
y ddau fil.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Rhoddodd y Dirprwy Lywydd y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Rheolwyr Busnes am gyfarfod y pwyllgor ddydd Gwener diwethaf
lle cytunwyd i sefydlu is-bwyllgor ar 'adferiad COVID-19', i adrodd yn ôl i'r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Mae eu trafodaethau cychwynnol wedi
bod ar gyfer pwyllgor o 5 Aelod, gydag aelodaeth symudol, ond y byddant yn
ystyried cydbwysedd pleidiol a ffactorau eraill yn nes ymlaen.
Gan fod cylch gwaith arfaethedig yr
is-bwyllgor yn un cyffredinol, y portffolio y byddai'n craffu arno yn bennaf fyddai
gwaith y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd; fodd bynnag, wrth
inni symud allan o'r adferiad, efallai y bydd yr is-bwyllgor am ehangu ei gylch
gwaith. Dywedodd y Trefnydd, pe bai unrhyw bwyllgor yn dymuno edrych yn benodol
ar adferiad COVID-19 yng nghyd-destun portffolio penodol (hy iechyd), y
Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y portffolio hwnnw fyddai yn y sefyllfa orau i
ymgymryd ag unrhyw waith craffu manwl.
Bydd Clerc y Pwyllgor yn gwneud cais am
slotiau pwyllgor yn yr hydref bob 3 wythnos, yn ychwanegol at y slotiau a
ddyrannwyd eisoes i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar ddyddiau
Gwener cyn toriadau.
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r
Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Nododd y Llywydd fod Llywodraeth Cymru mewn
trafodaethau gyda'r Swyddfa Gyflwyno ynghylch ei gyfrifoldeb fel cydlynydd
adferiad COVID-19. Bydd aelodau'n gallu gofyn cwestiynau i'r Cwnsler
Cyffredinol ar yr agwedd hon ar ei rôl, ond ar y ddealltwriaeth na fydd yn
gallu ateb cwestiynau polisi manwl sydd o fewn portffolio Gweinidogol penodol.
Aelodau sy'n newid eu plaid wleidyddol ond
sy'n aros heb grŵp gwleidyddol
Dywedodd y Llywydd y bu sawl newid yn ystod y
Cynulliad hwn o ran y mater hwn, lle mae'n rhaid iddi benderfynu sut i gyfeirio
at yr Aelodau hynny mewn cyhoeddiadau swyddogol. Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu
cefnogaeth pe bai'r Llywydd yn penderfynu y gellir cyfeirio at Aelodau fel rhai
sy'n perthyn i unrhyw grŵp neu blaid benodol y maent yn ddymuno, ar yr
amod ei fod mewn trefn.
Cyfarfod Llawn yn ystod tymor yr hydref
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y
bydd papur ar agenda'r wythnos nesaf ynghylch amserlennu'r Cyfarfod Llawn ar
gyfer tymor yr hydref.
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf
i'r Rheolwyr Busnes ar hynt y Bil Pysgodfeydd a'r Bil Rhestr Ardrethi
Annomestig. Mae'r Llywodraeth yn ystyried a ddylid gosod Memoranda yr wythnos
hon.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Adborth ar waith craffu Pwyllgor ar adfer ar
ôl Covid
Gofynnodd Darren Millar am adborth ar y
drafodaeth yn Fforwm y Cadeiryddion mewn perthynas â goruchwylio'r adfer ar ôl COVID.
Cadarnhaodd y Dirprwy Lywydd fod cytundeb ynghylch ffurfio is-bwyllgor o'r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar gyfer y mater penodol hwn, a bod
swyddogion yn paratoi opsiynau.
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Nododd Darren Millar sylwadau diweddar ar y
cyfryngau cymdeithasol a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol
y Senedd. Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor fod David Rowlands wedi
ymddiswyddo fel aelod o'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, a dywedodd
na fydd Plaid Brexit yn enwebu rhywun yn ei le. Mae hyn yn gadael tri aelod ar
y pwyllgor: dau aelod Llafur (gan gynnwys y cadeirydd) ac un aelod o Blaid
Cymru. Awgrymodd
Darren Millar y dylai’r Pwyllgor, felly, ddwyn ei waith i derfyn; dywedodd y
Llywydd y byddai’n cael cyngor ar y materion hyn.
Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Esboniodd
y Trefnydd fod y Bil gyda'r Llywydd ar gyfer Penderfyniad ar hyn o bryd ac y
bydd papur yn nodi amserlen arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes
yr wythnos nesaf. Gofynnodd Sian
Gwenllian yn ffurfiol i amser sydd ar gael cyn ei gyflwyno gael ei roi i
lefarwyr pleidiau i drafod cynnwys y Bil gyda'r Gweinidog Addysg.
Dychwelyd
i ystâd y Senedd
Gofynnodd
y Llywydd am farn y Rheolwyr Busnes ynghylch dychwelyd busnes y Senedd i ystâd
y Senedd. Nododd y Rheolwyr Busnes fod gwaith yn mynd rhagddo i baratoi
ar gyfer unrhyw benderfyniad i ddychwelyd i'r adeilad, a chytunwyd ei bod yn
bwysig ystyried yr egwyddorion a fyddai'n eu llywio i wneud penderfyniadau mewn
perthynas â dychwelyd i'r adeilad. Gofynnwyd i'r ysgrifenyddiaeth am bapur yn
amlinellu'r egwyddorion hyn, gan gynnwys cydraddoldeb, iechyd y cyhoedd a
chysylltiadau gweithwyr, ac opsiynau ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid a
chorfforol.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i weithredu proses bleidleisio electronig o bell
(gan Aelodau unigol) cyn gynted â phosibl.
Gofynnodd
y Llywydd i Reolwyr Busnes ystyried cynnwys y Cyfarfod Llawn, yn enwedig
ailgyflwyno cwestiynau a materion nad ydynt yn gysylltiedig â Covid.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf
i'r pwyllgor am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a ganlyn:
Y Bil Pysgodfeydd - Mae hwn wedi cael ei ddal
yn ôl ymhellach am resymau technegol ac mae'n debygol o gael ei gyflwyno ar ôl
toriad yr haf. Felly mae'r ddadl a oedd wedi cael ei hamserlennu dros dro ar
gyfer 8 Gorffennaf wedi cael ei gohirio.
Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) a'r Bil
Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - Cafodd y Biliau hyn eu cyflwyno ar
gyfer gwaith craffu gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond ni osodwyd terfynau amser ar
gyfer adroddiadau gan fod y llywodraeth yn aros am
wybodaeth ychwanegol am amserlenni'r Senedd. Gan fod y rhain yn parhau i fod yn
ansicr, cynigiodd y llywodraeth bod y pwyllgorau yn cael terfyn amser o 2
Gorffennaf ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r terfyn
amser arfaethedig.
Y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol
- Mae'r llywodraeth yn ystyried a oes angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd
ar gyfer y Bil hwn ac, os felly, mae'n rhagweld gosod y Memorandwm yr wythnos
hon ac yn awgrymu cynnal dadl ar 10 Mehefin.
Cwestiynau ysgrifenedig
Cododd Rheolwyr Busnes y Gwrthbleidiau
bryderon pellach ynghylch amseru a chynnwys atebion ysgrifenedig. Cytunodd y
Trefnydd i drafod hyn gyda chyd-Weinidogion a chododd y mater fod Aelodau yn
gofyn am wybodaeth a oedd eisoes ar gael yn gyhoeddus. Gofynnodd y Llywydd i'r
swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth iddi ynghylch pryd roedd cwestiynau yn
cael eu hateb.
Cyfarfod: 17/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Memoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol
Esboniodd
y Trefnydd nad yw'r Memoranda ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn
ymddangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes oherwydd oedi yn yr amserlen
Seneddol, ac nid yw'n glir pryd y bydd angen trafod y Memoranda. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl
i 14 Mai ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth a 21 Mai ar gyfer y Bil Pysgodfeydd.
Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y gwaith craffu Seneddol ar Fil yr
Amgylchedd wedi cael ei oedi, felly cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y
dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl i 4 Mehefin.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes
hefyd bod y broses o osod Memoranda ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)
2020, y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2020 a'r Bil Diogelwch Tân
wedi cael ei gohirio oherwydd bod gwaith ymateb i COVID-19 yn cael ei
flaenoriaethu. Gobaith y Llywodraeth yw gosod y Memoranda ar y rhain yr
wythnos nesaf.
Cwestiynau
Ysgrifenedig
Cododd rheolwyr busnes yr wrthblaid faterion sy’n ymwneud ag
amseroldeb a chynnwys atebion ysgrifenedig, ac roedd gan y Trefnydd bryderon
ynghylch nifer a chynnwys y cwestiynau, gyda rhai ohonynt am
wybodaeth a oedd eisoes ar gael i'r cyhoedd. Roedd rheolwyr busnes yr wrthblaid
o'r farn nad oedd y wybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar yr adeg y gofynnwyd y
cwestiwn. Gofynnodd y Llywydd i swyddogion roi rhagor o wybodaeth iddi er
mwyn llywio trafodaeth y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol.
Cyfarfodydd
y Pwyllgor Busnes yn y Dyfodol
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol ar
ddechrau'r wythnos, gyda'r diwrnod a'r amser i'w cytuno y tu allan i'r
pwyllgor.
Cyfarfod: 03/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Gan y cynhelir cyfarfodydd rhithwir
y Pwyllgor Busnes a'r Cyfarfod Llawn yn llwyddiannus, gofynnodd y Rheolwyr
Busnes i swyddogion ddarparu papur i amlinellu'r busnes hanfodol sy'n debygol o
ddod i’r pwyllgorau. Bydd hyn yn caniatáu i'r Pwyllgor Busnes ystyried a allai
pwyllgorau gwrdd, ac ar ba ffurf, ar ôl y toriad.
Cyfarfod: 27/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cwestiynau
Ysgrifenedig y Cynulliad:
Yng
ngoleuni'r cynnydd yn nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd, mynegodd y
Llywydd ei bwriad i arfer disgresiwn o ran y nifer o Gwestiynau Ysgrifenedig y
Cynulliad a dderbynnir, yn unol â Rheol Sefydlog 14.4, ac y byddai'n cyfyngu
nifer y Cwestiynau Ysgrifenedig i uchafswm o 10 yr wythnos i bob Aelod ar
unwaith.
Cyfarfod: 23/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes arall
Cofnodion:
Deddfwriaeth y llywodraeth
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Rheolwyr
Bunses am raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.
Y ddwy brif flaenoriaeth yw’r Bil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) a’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Bydd y llywodraeth yn ystyried yr amserlenni ar gyfer y
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil
(Cymru); bydd yr olaf yn cael ei anfon i gael penderfyniad y Llywydd fel y
bwriadwyd.
Efallai mai lle’r llywodraeth nesaf fydd cyflwyno’r Bil
Partneriaeth Gymdeithasol – bydd y llywodraeth yn ceisio ymgynghori ar Fil
drafft. Caiff y gwaith craffu ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau a’r Bil
Gwasanaethau Bysiau eu hatal dros dro a bydd y llywodraeth yn ailystyried yn y
dyfodol.
Bydd y llywodraeth yn blaenoriaethu is-ddeddfwriaeth i
ymateb i COVID-19 a phontio Ewropeaidd, yn ogystal ag unrhyw rai sy’n
gyfreithiol angenrheidiol.
Bydd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn parhau i gael
eu hystyried os yn bosibl.
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Coronafeirws (COVID-19)
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylai'r pwyllgorau, am y dyfodol, ganolbwyntio ar fusnes hanfodol.
Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor Busnes gwrdd eto yfory i ystyried opsiynau ar
gyfer trefnu ac amserlennu busnes dros yr wythnosau nesaf.
Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Cwestiynau
Gofynnodd
y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes ddweud wrth yr Aelodau i beidio â dyfynnu o
ohebiaeth yn ystod cwestiynau, gan fod hyn yn gwneud cyfraniadau yn rhy hir.
Dylai'r aelodau fod yn gofyn cwestiynau, yn hytrach na gwneud areithiau.
Coronafirws
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Comisiwn yn ystyried papur ar
Coronafirws yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddant yn dychwelyd at y papur ar
aelodaeth Pwyllgorau, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol, gan gynnwys
d'Hondt, yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor fod y llywodraeth yn bwriadu gosod memorandwm
cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Taliadau Uniongyrchol i
Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) heddiw, a bod yr amserlen
seneddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig gael ei drefnu ar gyfer yr wythnos
nesaf. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm at y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig gyda dyddiad cau o ddydd Mawrth 21 Ionawr ar
gyfer adrodd yn ôl.
Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
LCM ar Fil
yr UE (Ymadael)
Hysbysodd y
Trefnydd y Rheolwyr Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr UE (Ymadael). Mae gofynion amserlen Seneddol y
Bil yn golygu y bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol cysylltiedig ddydd Mawrth 21 Ionawr fan bellaf.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r LCM at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mai dydd
Gwener 17 Ionawr fyddai’r dyddiad cau ar gyfer adrodd.
Papurau
sydd ar ddod i’r Pwyllgor Busnes
Atgoffwyd y
Rheolwyr Busnes gan y Llywydd y bydd yr ymgynghoriad ar bleidleisio drwy
ddirprwy ar agor tan 13 Ionawr, a bydd ymatebion yn cael eu crynhoi mewn papur
i'w drafod yn y cyfarfod ar 21 Ionawr. Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor Busnes yn
edrych eto ar y papur ar aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion Pwyllgorau a
chydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau, gan gynnwys system d'Hondt ar 28
Ionawr. Mae'r rhain wythnos yn hwyrach na'r hyn a ddywedwyd o'r blaen, er mwyn
caniatáu rhagor o amser ar gyfer yr ymgynghoriad ar Bleidleisio drwy
Ddirprwy.
Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes i'r Clerc ddarganfod beth yw’r sefyllfa o ran adolygu'r
weithdrefn yn Nhŷ'r Cyffredin, sydd i fod i gael ei wneud gan y Pwyllgor
Gweithdrefnau yno.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor hefyd nad oedd hi'n gallu bod yn bresennol yng
nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, ac y byddai'r Dirprwy Lywydd yn
cadeirio yn ei habsenoldeb.