Cyfarfodydd

P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn:

·         am ragor o fanylion ynglŷn â sut mae'r rhaglen sgrinio'r coluddyn yn cael ei hadfer, a’r cynnydd ar hyn o bryd; ac

·         am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd pellach a wnaed o ran hunan-atgyfeirio i bobl dros 74 oed.

 

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael gwybod:

·         A oes unrhyw ymchwil wedi'i chomisiynu yng Nghymru – neu a fydd yn cael ei chomisiynu – i fuddion, neu’r niwed posibl yn sgil sgrinio canser y coluddyn i bobl dros 74 oed, a'r amserlen gysylltiedig; a

·         syniad o'r amserlen ar gyfer cyflwyno sgrinio i bobl yn y grŵp oedran 50-59.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

o   ofyn am gopi o’r llythyr gan Bwyllgor Sgrinio Cymru at Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn gofyn am eglurhad ar y rhesymeg dros ddod â sgrinio i ben yn 74 oed, ac ymateb UKNSC pan dderbynnir ef;

o   gofyn a yw costau ymestyn sgrinio ar ôl 74 oed, naill ai ar sail poblogaeth neu ar ffurf hunan-atgyfeirio, wedi cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru hyd yma; a

o   gofyn am esboniad pellach ar y datganiad yn llythyr y Gweinidog fod “gan bob rhaglen sgrinio y potensial i wneud niwed”; ac

·         ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn a Bowel Cancer UK i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.