Cyfarfodydd

P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i gau’r ddeiseb, o gofio bod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi datgan nad yw hi’n cefnogi camau i fabwysiadu polisi cyffredinol ynghylch defnyddio’r termau hyn, er y byddai’n cefnogi camau i’w defnyddio fel y bo’n briodol. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebwyr am ddwyn sylw at y mater hwn.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-929 Annog y defnydd o ‘Cymru’ a ‘Cymry’ wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a’r Saesneg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i rannu’r wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y deisebydd gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a gofyn am ei hymateb i’r pwyntiau ychwanegol a nodwyd.