Cyfarfodydd

P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer pobl anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor blaenorol a chytunodd i lunio adroddiad byr ar y materion a godir yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at y wybodaeth bellach a gasglwyd ac at yr awgrymiadau ynghylch datblygu trefniadau clwstwr i bractisau meddygon teulu gael mynediad at offer a chynllun benthyca. Yn unol â chynnig y BMA, cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn a fydd y Llywodraeth yn ystyried cychwyn trafodaethau â byrddau iechyd a grwpiau cleifion, fel SHINE, er mwyn ddatblygu atebion i'r broblem hon.

 

 


Cyfarfod: 17/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ymatebion a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod gan fyrddau iechyd ddyletswyddau o ran sicrhau y gall gwasanaethau meddygon teulu a gomisiynir fodloni dyletswyddau cydraddoldeb ac anghenion eu poblogaethau lleol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd lleol i ofyn am fanylion o ran faint o feddygfeydd yn eu hardaloedd sy'n darparu gwelyau triniaeth a theclynnau codi y gellir eu haddasu at ddefnydd cleifion anabl.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at SHINE (Rhwydwaith Gwybodaeth Cydraddoldeb Spinabifida a Hydrocephalus) a Chymdeithas Anafiadau Asgwrn Cefn, i ofyn am eu barn a'u profiadau o ddarparu gwelyau triniaeth a theclynnau codi y gellir eu haddasu mewn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         ceisio gwybodaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y materion a godwyd yn y ddeiseb; a

·         cheisio cyngor pellach ynghylch y camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru neu fyrddau iechyd eu cymryd er mwyn sicrhau bod offer a chyfleusterau priodol ar gael ym mhractisau meddygon teulu.

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i:

·         roi’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y deisebydd;

·         gofyn am ymateb i'r cynnig y dylai'r Llywodraeth sicrhau bod gan bob meddygfa teulu welyau triniaeth anabl y gellir eu haddasu a theclynnau codi at ddefnydd cleifion anabl drwy gyllid neu ddulliau eraill; 

·         gofyn am unrhyw enghreifftiau o arfer gorau y gallai'r Gweinidog eu rhannu â byrddau iechyd; a

·         gofyn pa ystyriaeth a roddwyd i ffurfioli'r gofynion mewn deddfwriaeth, y tu hwnt i'r canllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd.