4 P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor nifer o ddiweddariadau ar y ddeiseb hon, ac yng ngoleuni’r ymatebion a
ddaeth i law, gan gynnwys awydd Llywodraeth Cymru i gynnal datrysiad
rheilffordd a nodwyd gan y Gweinidog a Network Rail, a’r trafodaethau parhaus
ynghylch prydles y llinell ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth, mae’n annhebygol y
gellir cyflawni amcanion y deisebwyr.
Felly
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebwyr am eu
cyfraniadau i’r broses.
5 P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:
·
ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ofyn a yw effeithiau Covid-19 ar drafnidiaeth
gyhoeddus wedi effeithio ar awydd Llywodraeth Cymru i gynnal y potensial o
adfer gwasanaethau rheilffordd yn y dyfodol; ac
·
ysgrifennu at Network Rail i ofyn iddyn nhw
hyrwyddo pwysigrwydd deialog barhaus rhwng yr holl bartïon, ac i geisio ateb a
allai, o bosibl, ymgorffori sawl defnydd ar gyfer y llinell.
3 P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Network Rail i ofyn am
wybodaeth am statws presennol y trafodaethau ynghylch defnyddio’r lein yn y
dyfodol, a’r amserlenni ar gyfer gwneud unrhyw benderfyniadau.
2 P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a
chytunodd ar y camau a ganlyn:
·
ysgrifennu at
Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi:
·
roi manylion
ynghylch sut yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad blaenorol Diwydiant
Network Rail mewn perthynas â’r rheilffordd hon;
·
beth yw statws
presennol y cynnig ar gyfer gorsaf newydd yn Llangefni; ac
·
a fyddai
Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyllid i ailagor y rheilffordd hwn.
·
ysgrifennu at
Gyngor Ynys Môn i ofyn am ei farn ynghylch sut y gellid defnyddio Rheilffordd
Ganolog Ynys Môn yn y dyfodol ac a fydd yn ystyried rhoi rhagor o gyllid i
gefnogi’r gwaith i ddatblygu unrhyw un o’r rhain.