Cyfarfodydd
Debates on Members' Legislative Proposals - selection of motion for debate
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol gan Aelod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Chwefror:
NNDM7478 Mark
Isherwood
Cynnig bod y
Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud
darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng
Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai:
a) sicrhau bod gan y
gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a
darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr
gwasanaethau;
b) sefydlu grŵp
cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
c) ei gwneud yn ofynnol
i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a
sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a
gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a
d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu
cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella
mynediad at wasanaethau rheng flaen.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd mai hwn fyddai'r Cynnig Deddfwriaethol olaf gan Aelod i
gael ei amserlennu cyn y diddymiad.
Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod - dewis cynnig i’w drafod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Tachwedd:
NNDM7481 Janet
Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ac
i leihau gwastraff yng Nghymru.
1. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) creu cynllun
dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, lle byddai
defnyddwyr yn talu blaendal, a fyddai’n cael ei ad-dalu wrth ddychwelyd y
cynhwysydd;
b) lleihau nifer y poteli
plastig a gwydr untro, yn ogystal â chaniau dur ac alwminiwm;
c) ymateb i’r nifer
cynyddol o wastraff ailgylchadwy, fel cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei
ddefnyddio i ymladd COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau yn cael eu taflu
ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a
ch) cynyddu atebolrwydd, trwy roi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod
adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr
ymgymerwyd â hwy i leihau’r achosion o daflu gwastraff ailgylchadwy, a'r effaith
y mae'r rhain wedi'i chael ar wella amgylchedd naturiol Cymru.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i drefnu’r ddadl nesaf ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
ar gyfer 10 Chwefror 2021.
Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau: dethol cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i'w drafod ar 21 Hydref:
NNDM7427
Alun Davies
Rhun ap Iorwerth
Andrew RT Davies
Dai Lloyd
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef
ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:
a)
Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon
y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;
b)
awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol at ddiffibrilwyr
cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;
c)
Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i
bobl ledled Cymru;
d) byrddau
iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r
galon y tu allan i'r ysbyty; ac
e)
Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn
erbyn amcanion bob blwyddyn.
Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ddethol y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 5 Chwefror:
NNDM7239 David Melding
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu
gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai sicrhau bod gan:
a) bob adeilad preswyl
newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod;
b) bob adeilad preswyl
newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio,
lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant
o gyfanswm y lleoedd parcio.
Cefnogir
gan:
Angela
Burns
Dai Lloyd
David J
Rowlands
Huw
Irranca-Davies
Jenny
Rathbone
Mark
Isherwood
Mohammad
Asghar
Rhun ap
Iorwerth
Russell
George
Vikki
Howells
Cyfarfod: 12/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ddydd Mercher 20 Tachwedd:
NNDM7188
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.
2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai:
a)
galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn
dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;
b) galluogi
awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a
llwybrau teithio llesol;
c) lleihau
tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;
d) annog
cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar
gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;
e) cymell
Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar
waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n
achosi argyfwng yn yr hinsawdd.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddwy ddadl nesaf ar 5 Chwefror ac 11 Mawrth 2020.