Cyfarfodydd

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018-19 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2020-21

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN 2 - Llythyr gan Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 - 27 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN1 - Ymateb gan Swyddfa Archwilio Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru - 20 Chwefror 2020

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 ac Amcangyfrif 2020-21 Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur 2 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru – 23 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1   Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 


Cyfarfod: 27/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018-19 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Papur eglurhaol

Papur 4 – Gohebiaeth ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 5 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 4 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig ar 27 Tachwedd 2019.

 


Cyfarfod: 12/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Amcangyfrif Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21


Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Everett, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 – Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2014-15

Papur 2 – Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Terfynol ar Ganfyddiadau'r Archwiliad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2019

Papur 3 – Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - Cynllun Blynyddol 2019-20

Papur 4 - Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad interim 1 Ebrill i 30 Medi 2019

Papur 5 - Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Brîff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Isobel Everett, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac AD, Swyddfa Archwilio Cymru; a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o'i waith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.22.