Cyfarfodydd

P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 yn fuan. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith eto, ac am y tro olaf, i wneud cais bod sylw yn cael ei roi i’r galwadau am gynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cau’r ddeiseb ac yn diolch i’r deisebydd am godi’r mater hwn.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ddarganfod a yw'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog ac awydd y deisebydd i ddarparu gwybodaeth bellach yn y dyfodol, a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar unrhyw drafodaethau ynghylch y materion hyn a gynhaliwyd gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Chymdeithas Milfeddygon Prydain.

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         aros am ddiweddariad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig unwaith y bydd hi wedi gallu cynnal trafodaethau pellach gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Chymdeithas Filfeddygol Prydain; ac

·         ysgrifennu at Goleg Brenhinol y Milfeddygon i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb, ac yn sylwadau dilynol y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:

·         sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argymhellion yn y llythyr gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru; ac

·         i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ar ddarpariaeth filfeddygol, cymorth a chyngor.

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa - Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o dystiolaeth gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru a Chymdeithas Filfeddygol Prydain ynghylch y mater dan sylw yn y ddeiseb.