Cyfarfodydd

NDM7136 Cynnig o dan Rheol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig o dan Rheol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor

NDM7136 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Senedd sy'n Gweithio i Gymru​ - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7136 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

1. Yn sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

1

11

47

Derbyniwyd y cynnig.