Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus).
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a chytuno ar
ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar ddyddiad arall.
Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
NDM7122 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau
Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil
i’w weld ar wefan Senedd y DU:
https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/nondomesticratingpubliclavatories.html
Dogfennau Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM7122 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig
(Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
6 Adroddiad drafft: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Dogfennau ategol:
- EIS(5)-20-19(P4) Adroddiad Drafft
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad
drafft
Cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Dogfennau ategol:
- EIS(5)-20-19(P3) Cyngor Cyfreithiol
Cofnodion:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol.
Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
CLA(5)-22-19 – Papur 32 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16 , View reasons restricted (12/1)
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus).
Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau
ar gyfer adrodd yn ôl ar 11 Gorffennaf. Nodwyd ganddynt fod y llywodraeth yn
cynnig y dylid trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 16 Gorffennaf.