Cyfarfodydd
NDM7107 - Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli
NDM7107 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad
y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
2. Yn croesawu
argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr
gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Yn nodi’r
gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan
gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor
Materion Cymreig.
4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:
a) amlinellu
cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a
b) datganoli’r Doll
yn llawn erbyn 2021.
Y
Pwyllgor Materion Cymreig - Datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru (Saesneg
yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
16.27
NDM7107 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i
Gymru.
2.
Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll
Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3.
Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r
doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y
Pwyllgor Materion Cymreig.
4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:
a)
amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad
Cenedlaethol; a
b)
datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.
Cyd-gyflwynwyr
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36