Cyfarfodydd

Hawliau plant yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Crynodeb o'r drafodaeth ford gron a gynhaliwyd gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran hawliau plant yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Cafodd y papur ei nodi.

 


Cyfarfod: 04/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch adolygiad o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau: Addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adroddiad ar gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran un o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr Adroddiad Hawliau Plant: y camau nesaf.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i hawliau plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Hawliau Plant yng Nghymru – trafod adborth gan dystion ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor ymateb y tystion a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu ei sylw at ymatebion y rhanddeiliaid, ac i ofyn am ragor o wybodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn. 

 

 


Cyfarfod: 03/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cynllun Hawliau Plant diwygiedig

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru – trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y camau nesaf. Cytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid allweddol a roddodd dystiolaeth lafar i gael eu barn am:

- ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor; ac

- unrhyw ddiweddariadau sylweddol sy'n berthnasol i'r adroddiad ers i'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth.

 


Cyfarfod: 26/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch ei ymchwiliad i fonitro a dadansoddi'r defnydd a wneir o ffrwyno plant mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Hawliau Plant yng Nghymru – ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ynghylch Hawliau Plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 6 Tachwedd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr ar y cyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Plant yng Nghymru – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Hydref ynghylch hawliau plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol, a chytuno y byddai'r adroddiad drafft yn cael ei drafod eto yn y cyfarfod ar 16 Ionawr 2020.

 

 


Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru

Mae dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 yn nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) agor ar gyfer llofnodwyr. I nodi'r achlysur hwn, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) wedi gwahodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru (SIC) i sesiwn gyhoeddus i drafod blaenoriaethau SIC a gwaith ei Haelodau ar ymchwiliad y Pwyllgor PPIA i hawliau plant.

 

 

Cynrychiolwyr Senedd Ieuenctid

Betsan Roberts, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ogledd Caerdydd

Todd Murray, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr

Ffion Griffith, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Islwyn

Maisy Evans, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, a nododd fod y sesiwn wedi'i threfnu i nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn agor ar gyfer llofnodwyr. 

2.2. Croesawodd y Cadeirydd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Gwahoddwyd ef i ymuno â'r sesiwn gan fod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn berthnasol i bob pwyllgor.

2.3 Trafododd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eu blaenoriaethau gyda'r Pwyllgor, a'u gwaith ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Hawliau Plant.

 

 


Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd – Llywodraeth Cymru

David Pearce, Pennaeth y Gangen Plant – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi manylion am y nifer o Weinidogion Cymru sydd wedi cael hyfforddiant penodol i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldeb cyfreithiol i roi 'sylw dyledus' i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau yn eu portffolios. 

 

 


Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - Gwybodaeth ychwanegol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dilyn y cyfarfod ar 16 Hydref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â Hawliau Plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â Hawliau Plant yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 23/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch hawliau plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.


Cyfarfod: 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4

Comisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.


Cyfarfod: 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Melissa Wood, Uwch Gydymaith
Hannah Wharf, Prif arferydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

 

4.2     Gwnaethant gytuno i ddarparu enghreifftiau rhyngwladol o sut mae mecanweithiau cenedlaethol ar gyfer gweithredu argymhellion y Cenhedloedd Unedig, adrodd arnynt a chynnal gwaith dilynol yn eu cylch yn gweithredu'n ymarferol.


Cyfarfod: 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru 
Dr Phillip Connor, Ymgynghorydd mewn Haematolegydd Paediatreg, Arweinydd Ymchwil a Datblygu'r Gyfarwyddiaeth, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Rhian Croke, Cynghorydd Hawliau Dynol Plant, Hawliau Dynol Cymru
Rhian Thomas Turner, Uwch-reolwr Gweithrediadau, Ysbyty Plant Cymru
 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

 


Cyfarfod: 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1

Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru

Sean O'Neil, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru

Tim Ruscoe, Swyddog Materion Cyhoeddus a Chyfranogiad, Barnardo's Cymru

Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru.

 

2.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu enghreifftiau o'u hymchwil ddiweddar (ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) o Asesiadau Effaith Hawliau Plant a gwblhawyd yn ôl-weithredol ar ôl i bolisi gael ei gyflwyno.


Cyfarfod: 10/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Hawliau Plant yng Nghymru - digwyddiad ymgysylltu

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod â phlant ledled Cymru i drafod Hawliau Plant.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cyfarfu'r Pwyllgor â phlant o Ysgol Gynradd Awel y Môr ac Ysgol Pant y Rhedyn i drafod hawliau plant.


Cyfarfod: 02/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - briffio ar gyfer gweithgaredd ymgysylltu

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio ar drefniadau’r digwyddiad ymgysylltu ar 10 Hydref.

 


Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Hawliau Plant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Cais am wybodaeth ar gyfer gwaith craffu ar ôl deddfu’r Pwyllgor ar y Mesur Hawliau Plant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - ymgynghori ar addewid drafft

Dogfennau ategol: