Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

NDM7156 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Dogfennau Atodol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.18

NDM7156 - Yr Arglwydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Dogfennau Atodol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 16/09/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 15)

15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham: Adroddiad drafft

CLA(5)-24-19 – Papur 74 – Adroddiad drafft

CLA(5)-24-19 – Papur 75 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-24-19 – Papur briffio cyfreithiol 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham, a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 17/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Adroddiad drafft: Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Gemau’r Gymanwlad Birmingham

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-21-19(P7) Adroddiad Drafft

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 17/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Gemau’r Gymanwlad Birmingham

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-21-19(P6) Cyngor Cyfreithiol

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Gemau’r Gymanwlad Birmingham

CLA(5)-23-19 – Papur 13 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad Birmingham.

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 3 Hydref.