Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig - y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm diwygiedig ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ond, gan fod y Bil yn cael ei ddal yn ôl am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ni osododd ddyddiad terfynol ar gyfer adrodd.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

NDM7113 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/nondomesticratinglists.html

Dogfen Ategol

 

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

NDM7113 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 08/07/2019 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri)

CLA(5)-22-19 – Papur 31 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri).

 


Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-19-19(P5) Cyngor Cyfreithiol: Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 03/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Adroddiad drafft: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-19-19(P6) Adroddiad Drafft: Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 4 Gorffennaf.