Cyfarfodydd

Unrhyw Fusnes Arall

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd i ymgynghori â'u grwpiau ar y diwygiadau arfaethedig i amserlen y pwyllgorau gyda'r bwriad y bydd y Pwyllgor Busnes yn gwneud penderfyniadau yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. 

 

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Cyfarfodydd adalw'r Senedd ar 5 a 26 Awst

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir gydag amser cychwyn o 1.30pm, ac y bydd unrhyw bleidleisio yn digwydd ar yr ap pleidleisio o bell.

Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau o 3 Awst i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar y rheoliadau, cyn y ddadl a ragwelir ar 5 Awst.

Trafododd y Rheolwyr Busnes ffyrdd o sicrhau bod y rheoliadau, yn achos rheoliadau cadarnhaol, yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl iddynt gael eu gwneud, a gofynnodd y Llywydd i swyddogion ystyried ffyrdd o alluogi hynny i ddigwydd.

 


Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Gofynnodd y Trefnydd am gadarnhad y bydd y cyfyngiad ar nifer y cwestiynau ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf yn aros yr un fath ag ar gyfer toriadau blaenorol (pum cwestiwn yr Aelod yr wythnos). Cadarnhaodd y Llywydd hyn. 

Adolygu Rheolau Sefydlog

Gofynnodd y Trefnydd i'r adolygiadau arfaethedig o agweddau ar y Rheolau Sefydlog ar gyfer y chweched Senedd barhau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r gwaith hwn barhau yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod oedi i Gyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) (Cymru) oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod cyn yr etholiad yn San Steffan.

Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes am gysondeb o ran dull y llywodraeth mewn perthynas â'r cyfnod cyn yr etholiad, a dyfynnwyd cyhoeddiadau a wnaed trwy atebion i gwestiynau, yn ogystal ag mewn busnes a drefnwyd.

Nododd y Rheolwyr Busnes mai mater i'r Trefnydd yw Amserlen Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Trefnydd i hysbysu cyd-Weinidogion o'r pryderon a godwyd.

 

 

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yr wythnos diwethaf ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) gan fod y Bil wedi cael ei ailgyflwyno i'r Senedd, ar ôl cwympo yn ystod y cyfnod addoedi. Fodd bynnag, bydd y Bil yn cwympo eto gan  na fydd wedi'i gwblhau cyn i'r Senedd gael ei diddymu cyn yr etholiad cyffredinol, ac felly ni fydd y llywodraeth yn gofyn i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r Memorandwm i'w graffu.

 

Etholiad Cyffredinol yn San Steffan

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd na ddylai etholiadau San Steffan effeithio ar fusnes y Cynulliad, a chafodd yr Aelodau eu hatgoffa hefyd fod Rheolau Sefydlog yn mynnu bod yn rhaid i areithiau fod yn "berthnasol i fusnes y Cynulliad". Nid y Cyfarfod Llawn yw'r lle i ymgyrchu dros etholiad cyffredinol y DU ac ni ddylai dynnu sylw'r Aelodau o'u ffocws ar faterion y mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Bydd y Llywydd yn galw unrhyw Aelodau neu Weinidogion i drefn os ydynt yn crwydro oddi wrth hyn i drafod maniffestos etholiad San Steffan, ymgyrchoedd gwleidyddol ac ymgeiswyr unigol.

 

Pleidleisio drwy ddirprwy

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at y papur ar Bleidleisio drwy Ddirprwy yr wythnos nesaf i gael adborth gan grwpiau.

 

 

 


Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Roedd Reg Kilpatrick (Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol) yn bresennol yn y cyfarfod i roi diweddariad byr i'r Rheolwyr Busnes ar y gofynion tebygol ar Weinidogion fel rhan o weithgaredd Ymateb Parodrwydd Brexit arfaethedig Llywodraeth Cymru pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb ar 31 Hydref.  Roedd hyn yn cynnwys yr angen posibl am hyblygrwydd o ran eu hargaeledd i graffu yn y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau.

 

 


Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

The Trefnydd informed Business Managers that the government will be laying a Section 109 Order before the end of the week. Business Managers provisionally agreed to refer the proposed Order to CLA Committee, with a reporting deadline of 30 September.


Cyfarfod: 03/07/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 6.)

Unrhyw Fusnes Arall


Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Aelodau'r Pwyllgor Busnes

 

Er bod Plaid Brexit yn gymwys i gael ei chynrychioli ar y Pwyllgor Busnes, cafodd y cynnig i ethol Caroline Jones fel aelod ei drechu ar 22 Mai. Mae'r Llywydd wedi derbyn cais gan Blaid Brexit i ail-gyflwyno'r cynnig i ethol Caroline Jones. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ail-gyflwyno'r cynnig a'i drefnu, dros dro, ar gyfer yfory, ond gofynnwyd i swyddogion wirio gyda Phlaid Brexit a oedd yr amseru yn briodol iddyn nhw.

 

 

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Business Committee Membership

 

Neil Hamilton is no longer a member of the Business Committee on account of UKIP having ceased to be a group. The Brexit Party group now qualify to be represented on the Business Committee and have indicated that they wish to nominate Caroline Jones. Business Managers agreed to table a motion to elect Caroline Jones to the Business Committee and for the motion to be considered on Wednesday.

 

Leaders and Spokespeople

 

Business Managers discussed the allocation of leaders and spokespeople questions to the Brexit Party. The Llywydd confirmed that she will inform Members of her decision in due course.

 

Chamber Seating

 

A revised seating plan will be circulated later this morning.

 

Supplementary questions

 

The Llywydd informed Business Managers that she intends to ensure that First Ministers’ Questions always reaches Question 8. The Llywydd also indicated that where the time taken by questions only allows time to call one supplementary, that she will alternate between calling Plaid Cymru and the Conservatives first, with Labour Members and others where appropriate.

 


Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Ffilmio yn y siambr

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf 3 Ebrill.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Unrhyw fater arall

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Aelodau o’i blaid wedi codi’r mater o ddyrannu cwestiynau atodol gydag ef. Roeddent yn pryderu am ychydig o achosion diweddar lle na alwyd arnynt i ofyn cwestiynau atodol yn y Cyfarfod Llawn. Eglurodd y Llywydd ei dull wrth alw am gwestiynau atodol ond nododd fod hylifedd hefyd yn hanfodol, a bod pa Aelodau oedd yn cael eu galw pryd bob amser yn cael ei bennu yn ôl cyfyngiadau amser a chydbwysedd o ran y pleidiau.