Cyfarfodydd
NDM7101 Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch
NDM7101
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda
chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf
ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol
sector prifysgolion Cymru.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal
methdaliad unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy
gyfrwng benthyciad brys os oes angen.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol
yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na
phum gwaith enillion canolrifol.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau
goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant
arian cyhoeddus;
6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i
weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud
penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a
barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas
Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;
b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector
Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y
bobl ifanc 18 oed;
2. Yn croesawu:
a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr
rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;
b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i
gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob
blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;
c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru
i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran
adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael
â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;
d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn
y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng
nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu
tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac
atebolrwydd.
Cod
Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, dileu 'yn
amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion
canolrifol' a rhoi yn ei le 'yn cynnwys amodau i fynd i'r afael â chyflogau
gormodol is-ganghellorion ac uwch arweinwyr'.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y
sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch
Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg
mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd
ariannol sector prifysgolion Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i
atal methdaliad unrhyw sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos,
drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i
brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn
ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder
trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â
gwariant arian cyhoeddus;
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff
olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob
lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried
llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
34 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod:
a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas
Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;
b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector
Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y
bobl ifanc 18 oed;
2. Yn croesawu:
a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr
rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;
b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i
gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob
blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;
c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru
i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran
adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael
â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;
d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn
y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng
nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu
tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac
atebolrwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
18 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
[Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran
y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
25 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod:
a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas
Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;
b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector
Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y
bobl ifanc 18 oed;
2. Yn
croesawu:
a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r
system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr
rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;
b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i
gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob
blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;
c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru
i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran
adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael
â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol
mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;
d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn
y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng
nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu
tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac
atebolrwydd.
Cod Ymarfer Cyflogaeth
Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
19 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.