Cyfarfodydd

Ffordd Liniaru yr M4

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ffordd liniaru'r M4: Trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-28-19 Papur 1 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (8 Hydref 2019)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffordd liniaru’r M4 a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw waith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn yr Adolygiad Burns.

 


Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ffordd liniaru'r M4: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ffordd Liniaru'r M4: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-20-19 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r costau yr aed iddynt ar Ffordd Liniaru'r M4.

4.2 Cytunodd Andrew Slade i ddarparu'r canlynol:

·         Cyfanswm y gost net ar gyfer datblygiad yr M4 - gan restru fesul eitem gyfanswm costau’r datblygiad ynghyd â’r costau dirwyn i ben ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill, namyn unrhyw elw a wnaed o werthu’r eiddo a gaffaelwyd, incwm arall neu gostau a adenillwyd.

·         Copïau o Adroddiad Dewisiadau Amgen a awgrymwyd gan Wrthwynebwyr ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (Mawrth 2017)

·         Dadansoddiad o'r gwaith twnelu arfaethedig o dan Lefelau Gwent, sut y cafodd y costau hyn eu meincnodi, a pha ganran oeddent o gostau cyffredinol y dewisiadau eraill

·         Yr amserlen ar gyfer gwaredu'r eiddo sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru