Cyfarfodydd
Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6.1)
Diweddariadau a diwygiadau i'r Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6.)
Casglu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Coladu Canllawiau - Cwestiynau Llefarwyr
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes y canllawiau cyfredol ar gwestiynau llefarwyr a chytunwyd i
newid y geiriad ychydig, er mwyn caniatáu i'r cwestiynau wyro oddi wrth thema
eang mewn amgylchiadau eithriadol. Felly, mae'r Rheolwyr Busnes wedi cytuno ar
y canllawiau a gasglwyd yn eu cyfanrwydd ac fe'u cyhoeddir yn fuan.
Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Coladu canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd
o dan Reol Sefydlog 6.17
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ddychwelyd at y mater o gwestiynau'r
Llefarwyr yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Coladu Canllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r canllawiau a gofynnwyd
i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno drafft diwygiedig yn adlewyrchu'r newidiadau y
cytunwyd arnynt, a darparu nodiadau ar feysydd sydd angen eu hystyried
ymhellach.
Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Casglu ynghyd Ganllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais gan y Trefnydd i ohirio unrhyw drafodaeth tan 19 Mawrth
i ganiatáu ystyriaeth bellach gan y grŵp Llafur.
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Casglu ynghyd Ganllawiau a gyhoeddir gany Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Mewn
ymateb i ymholiad gan y Trefnydd ynghylch cynnwys amseru 'Dadleuon sy'n ceisio
cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod', cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ychwanegu'r amseru ar gyfer Cyfnodau 1, 3 a 4.
Soniodd y
Trefnydd am y posibilrwydd o adolygu nifer y cwestiynau a gyflwynir ar gyfer
sesiynau'r cwestiynau llafar, gyda'r bwriad o'i lleihau o'r pymtheg presennol.
Dywedodd y Rheolwyr Busnes eraill y gallent fod yn gefnogol i symudiad o'r
fath, yn amodol ar ymgynghori â'u grwpiau.
Dywedodd y
Llywydd y dylai'r Aelodau ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd ato ar ôl yr
hanner tymor.