Cyfarfodydd
P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Datganodd Neil
McEvoy a Michelle Brown y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A:
Maent yn Aelodau
Cynulliad rhanbarthol nad ydynt yn aelodau mwyach o’r pleidiau y cawsant eu
hethol i’w cynrychioli.
Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019 wedi’i
phasio, ac oherwydd diffyg cysylltiad â’r deisebydd.
Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-887 Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 118 KB Gweld fel HTML (2/1) 11 KB
- Briff Ymchwil , View reasons restricted (2/2)
- 13.06.19 Gohebiaeth – Llywydd at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 92 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar
yr ymateb a roddwyd gan y Llywydd ac i annog y deisebydd i ymgysylltu â'u
cynrychiolwyr etholedig i fwrw ymlaen â gwelliannau deddfwriaethol i'r Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru).