Cyfarfodydd

P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi datgan ei gefnogaeth i'r llwybr.

 

Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n cadarnhau y bydd adolygiad o'r llwybr yn cael ei gynnal. O ystyried argymhelliad y Pwyllgor i gynnal adolygiad cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ystyried adroddiad drafft - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, derbyniodd nifer o welliannau a chytunodd i gadarnhau'r drafft terfynol y tu allan i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad cryno o'i ystyriaeth o'r ddeiseb, gan gynnwys unrhyw argymhellion y mae'n dymuno eu gwneud, gyda'r bwriad o gyhoeddi hyn cyn diwedd tymor y Senedd.

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod y Sesiwn Tystiolaeth - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

 

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Sesiwn Dystiolaeth - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Ken Skates – Gweinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru

 

Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cyflenwi Seilwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Andy Falleyn.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i:

·         wahodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ofyn am gopi o adroddiad archwilio diweddaraf Pont Sir y Fflint fel y cytunwyd yn eu sesiwn dystiolaeth ar 1 Hydref 2019.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-886 Stopio’r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Aelodau eu buddiannau perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·                     Mae Jack Sargeant wedi datgan yn flaenorol ei gefnogaeth i’r cynllun.

·                     Mae Michelle Brown wedi datgan yn flaenorol ei gwrthwynebiad i’r cynllun.

 

Ystyriodd y Pwyllgor dystiolaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i godi nifer o faterion pellach mewn perthynas â’r cynllun.

 


Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn dystiolaeth 2: P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

·         Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

·         Stephen Jones, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Cyngor Sir y Fflint

·         Cyng Carolyn Thomas, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, Cyngor Sir y Fflint

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint.

 

Cytunodd Cyngor Sir y Fflint i roi copi o adroddiad arolygu diweddaraf Pont Sir y Fflint i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

P-05-886 Stop the Red Route (A55/A494 corridor)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiynau tystiolaeth blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at:

  • Amrywiaeth o randdeiliaid amgylcheddol a busnes eraill i ofyn am dystiolaeth ychwanegol ar y ddeiseb a'r Llwybr Coch arfaethedig, a
  • Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn rhagor o gwestiynau yn ymwneud â datblygu cynlluniau manwl ynghylch llwybr y ffordd newydd a mesurau lliniaru amgylcheddol arfaethedig.

 

 


Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth 1: P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

·         Tom Rippeth, deisebydd

·         Mike Webb, deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24A gwnaeth Jack Sargeant AC ddatganiad ei fod wedi cefnogi'r Llwybr Coch yn y gorffennol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Rippeth, ar ran y deisebwyr, a Mike Webb, a oedd yn cynrychioli Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

 

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i ymchwilio yn fanylach i'w pryderon mewn perthynas â'r Llwybr Coch arfaethedig.