Cyfarfodydd

P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O ystyried mai dim ond Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis all benderfynu a ddylid gwneud cais i'w gyrsiau gael eu dynodi'n benodol i fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, nid oes llawer arall y gall y Pwyllgor ei gyflawni ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Brifysgol a'r deisebydd i esbonio'r penderfyniad a chynnig bod y Brifysgol yn gwneud cais am ddynodiad.

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb pellach ar fater dynodi’r cyrsiau penodol yn Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis fel rhai sy’n gymwys i gael cyllid, fel dewis arall yn lle gwneud newidiadau ehangach i’r Rheoliadau.

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i roi’r wybodaeth a gafwyd gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis i'r Gweinidog Addysg ac i ofyn iddi roi barn bellach mewn perthynas â phriodoldeb dynodi cyrsiau yn y sefydliad, yn sgil yr esboniadau a roddwyd.

 

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis i ofyn:

·         am eglurhad ynghylch ei statws rheoleiddio;

·         am ei safbwynt ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac

·         am fanylion unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ymateb yn ysgrifenedig i’r Gweinidog Addysg i ofyn:

o   a fyddai'n ystyried 'dynodi' y cyrsiau a ddarperir gan Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis i alluogi myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i gael cymorth i fyfyrwyr i astudio yno; ac

o   a oes unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r sefydliad am hyn.