Cyfarfodydd

NDM7059 Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd

NDM7059 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

1. Yn cydnabod ei bod bron yn dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr UE ac nad ydym yn nes at gyflawni eu dymuniadau.

2. Yn gresynu fod Aelodau Seneddol o'r ddwy brif blaid wedi ceisio atal y DU rhag gadael yr UE, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwario £9miliwn ar daflen a oedd yn addo cadw at ganlyniadau'r refferendwm a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol a etholwyd yn 2017 yn sefyll ar sail y maniffestos a oedd yn addo cyflawni BREXIT.

3. Yn galw ar Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE ddim hwyrach na 31 Hydref 2019.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu'r cyfan a rhoi  yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016.

2. Yn credu y dylid gweithredu ar ganlyniadau refferenda bob amser.

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ar ôl 'barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd' rhoi 'ac yn dweud unwaith eto y byddai Brexit heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus a chwbl annerbyniol.'

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7059 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.