Cyfarfodydd

Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc ('Cadernid Meddwl') – Gwaith dilynol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Trafodaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei agwedd tuag at y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr Adroddiad Cadernid Meddwl: dwy flynedd yn ddiweddarach, sydd wedi'i drefnu ar gyfer 16 Rhagfyr 2020.

 

 


Cyfarfod: 10/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc - paratoi ar gyfer y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr Adroddiad Cadernid Meddwl: dwy flynedd yn ddiweddarch (16 Rhagfyr 2020)

Carol Shillabeer, Cadeirydd – Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (2)

Deb Austin, Rheolwr Rhaglen - Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc gyda Carol Shillabeer a Deb Austin, Cadeirydd a Rheolwr Rhaglen y Rhaglen Gyda'n Gilydd i Blant a Phobl Ifanc (2).

 

 


Cyfarfod: 03/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cymorth i iechyd meddwl a llesiant dysgwyr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Gwaith dilynol: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniwyd yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau. 

 


Cyfarfod: 17/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch darpariaeth iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Diweddariad y Gweinidog ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru - y camau nesaf ar gyfer Cadernid Meddwl

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Gwaith dilynol: sesiwn gyda rhieni a gofalwyr (drwy wahoddiad yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad Cadernid Meddwl gyda rhieni a gofalwyr.

 


Cyfarfod: 13/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru – gwaith dilynol: Digwyddiad i randdeiliaid (drwy wahoddiad yn unig)

 

11.15 - 12.45 - Trafodaeth gyda rhanddeiliaid

12.45 – 13.15 – Egwyl

13:15 - 14:15 Trafodaeth gydag aelodau Senedd Ieuenctid Cymru

 

 

Linc i ymatebion yr ymgynghoriad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor hynt yr adroddiad gyda Rhanddeiliaid ac Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

 


Cyfarfod: 30/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1.)

Sesiwn Hyfforddiant gyda Gwasanaeth Ymlyniad Gwent (GIG) - Trwy wahoddiad yn unig

Mae'r effaith ar blant a phobl ifanc yn sgil materion sy'n ymwneud ag ymlyniad a bondio wedi bod yn elfen amlwg mewn ymchwiliadau diweddar a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. O'r herwydd, gwahoddwyd Gwasanaeth Ymlyniad Gwent i ddarparu diwrnod o hyfforddiant.

 

Mae'r sesiwn hyfforddiant hon ar gyfer gwahoddedigion yn unig; ni fydd ar agor i'r cyhoedd.

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg – camau nesaf yr adroddiad Cadernid Meddwl

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru - Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc – y camau nesaf o ran Cadernid Meddwl

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant yn y sector addysg gan y Ganolfan Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Rhaglen Estynedig y GIG, ‘Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc’.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/12/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Gwaith dilynol: trafod y camau nesaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc - Gwaith dilynol - Trafod yr ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb. Cytunodd yr Aelodau:

·         y byddai amser yn cael ei neilltuo mewn cyfarfod yn y dyfodol i drafod yr ymateb a chamau nesaf y Pwyllgor yn fanylach;

·         i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi gwybod i’r Gweinidogion perthnasol am y bwriad hwn.

 

 

 

 


Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg - Gwaith dilynol ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru - Cadernid Meddwl

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog ar 20 Mehefin

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/09/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Drafft Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, Cynllun Cyflenwi 2019-22

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/07/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Gweinidog Addysg - gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod ar 20 Mehefin ynghylch y gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Addysg - Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – sesiwn dystiolaeth 3

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Rheolwr y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc.

 

 


Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 20/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – Gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 20/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – Gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – Sesiwn dystiolaeth 2

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG

Matt Downton, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed

 

*O gofio'r gwaith sylweddol sydd ar y gweill yn y maes hwn, nid oedd y Pwyllgor yn dymuno gorlwytho rhanddeiliaid ag ymgynghoriad pellach i helpu i lywio'r sesiwn hon. Fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i randdeiliaid fod croeso iddynt rannu eu barn ar gynnydd os oeddent yn dymuno. Daeth dau bapur i law:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu'r canlynol:

  • Crynodeb o Adroddiad Uned Gyflawni'r GIG o'i Adolygiad Capasiti, gan gynnwys adroddiadau pob Bwrdd Iechyd unigol a'r adroddiad y seiliwyd y cynlluniau gwella interim arnynt. 
  • Data rheoli ar wasanaethau niwroddatblygiadol.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ehangach, gan gynnwys rôl asiantaethau eraill, ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth iawn sy'n cael eu rhoi mewn ysbytai yn Lloegr.
  • Nodyn ar y cynnydd a wneir ar iechyd emosiynol ac iechyd meddyliol Plant sy'n Derbyn Gofal (Argymhelliad 23 yn 'Cadernid Meddwl').

 

 


Cyfarfod: 20/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – Gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – Sesiwn dystiolaeth 1

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg

Ruth Conway, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

 

*Noder bod yr holl bapurau o dan eitem 2 hefyd yn berthnasol i eitem 3. 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Addysg.

2.2 Cytunodd y Gweinidog Addysg i ddarparu nodyn ar nifer yr ysgolion, gan gynnwys nifer yr aelodau staff, sydd wedi cael hyfforddiant ACE.

 

 


Cyfarfod: 16/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Raglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol: y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am adroddiad Cadernid Meddwl y Pwyllgor

Dogfennau ategol: