Cyfarfodydd
NDM7045 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gweithio Gartref
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Gweithio Gartref
NDM7045 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a
dydd Sadwrn 18 Mai 2019.
2.
Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau
teuluol, a bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd,
gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru
ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a
recriwtio.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio
gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw
pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at
fand eang.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym
mhwynt 4, dileu:
“ddatblygu
strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu
Superfast Cymru, er mwyn
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion
wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r
posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith,
gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr
angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7045
Gareth Bennett
(Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cynhelir
Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai
2019.
2. Yn credu bod
gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a
bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy
hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd
i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o
fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n
dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
50 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ym
mhwynt 4, dileu:
“ddatblygu
strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu
Superfast Cymru, er mwyn
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
8 |
15 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion
wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r
posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith,
gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr
angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
8 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7045
Gareth Bennett
(Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cynhelir
Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai
2019.
2. Yn credu bod
gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a
bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy
hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd
i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu
rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.
5. Yn nodi bod yr
Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan
bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen
galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac
amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu
hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
10 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.