Cyfarfodydd

P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil y camau a ddisgrifiwyd gan Trafnidiaeth Cymru a'u bwriad i ddileu'r defnydd o blastigau un defnydd yn llwyr ar ei wasanaethau, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; ac
  • ysgrifennu at Trafnidiaeth Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb, gofyn am fanylion pellach am y mentrau y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth atynt a gofyn a ellid ymgorffori targedau ar gyfer lleihau neu ddileu plastigau untro wrth gaffael gwasanaeth arlwyo di-elw.