Cyfarfodydd

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn gallu cyrchu gwersi am ffi cwrs safonol, ac mae gostyngiadau ar gael i ddysgwyr ar incwm isel a chymorth ariannol i helpu i leihau rhwystrau eraill.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog y Gymraeg i roi sylwadau diweddaraf y deisebydd iddi, ac i ofyn am ei hymateb i’r amgylchiadau penodol a amlygwyd.

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i aros i’r deisebydd roi sylwadau ar ymateb Gweinidog y Gymraeg cyn ystyried a yw am fwrw ymlaen â’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y brifysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am ei chynlluniau nawr ac yn y dyfodol mewn perthynas â niferoedd:

·         y bobl a fydd yn cael eu hyfforddi i addysgu'r Gymraeg; a

·         lleoedd fforddiadwy a lleoedd am ddim i ddysgwyr Cymraeg.

 

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch ar hyn o bryd yn astudio'r Gymraeg yn y Brifysgol a gall addysgu Cymraeg yn y dyfodol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol; ac

·         ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn a oes digon o gapasiti addysgu i gefnogi cynnydd yn y galw am wersi Cymraeg.