Cyfarfodydd
NDM7000 - Dadl Plaid Cymru - Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth
NDM7000
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ymgyrch
barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;
2. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a
anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn
annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch
WASPI.
4. Yn galw ar y
Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd
mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a
Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod
a aned yn y 1950au.
Cefnogwr
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwyntiau 2 a 4
ac ailrifo'n unol â hynny.
Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod
Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt
ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf
Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu
cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn
2011.
'Deddf
Pesiynau 1995' (Saesneg yn unig)
'Deddf Pensiynau
2007' (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.56
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7000 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y
wladwriaeth;
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol
trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod
ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA)
gyda diffyg hysbysiad priodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i
gefnogi'r ymgyrch WASPI.
4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai
Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn
erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn
y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
8 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.