Cyfarfodydd

P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-865 Gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol sydd wedi dod i law a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn iddo drafod opsiynau fegan fel rhan o’i adolygiad o’r adroddiad ar Ailfeddwl am Fwyd yng Nghymru: Caffael Cyhoeddus mewn cysylltiad â Bwyd. Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater, a hynny gan gytuno hefyd i gau’r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am friff cyfreithiol ar y cwestiwn a oes angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cyflawni’r newidiadau a geisir gan y deisebwyr; ac yn dilyn hynny, ysgrifennu eto at Lywodraeth Cymru i wneud cynigion perthnasol ar sut i fynd i’r afael â’r mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i ofyn sut mae cytundebau fframwaith bwyd a diod presennol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn galluogi ac yn annog y sector cyhoeddus i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni dyddiol, sy’n addas i figaniaid, ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i adolygu canllawiau statudol ar gyfer bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir, o ran y gofynion i gynnwys dewisiadau ar eu bwydlenni sy’n addas i'r rhai sy'n dilyn diet figan.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac ymateb ar y cyd oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg, a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • casglu gwybodaeth bellach mewn perthynas ag ysgolion ac ysbytai gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd; ac
  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

o   i ofyn am wybodaeth am yr amserlen a'r broses ar gyfer adnewyddu Safon Maeth ac Arlwyo Cymru Gyfan;

o   i rannu barn y Pwyllgor y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr arlwyo sector cyhoeddus mawr ddarparu dewis figan a llysieuol ar eu bwydlenni ac y dylai fod yn ofynnol i arlwywyr eraill yn y sector cyhoeddus ddarparu rheswm dros optio allan; ac

o   i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

 

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Weinidog yr Amgylchedd i ofyn iddi ymgorffori'r mater hwn yng ngwaith Llywodraeth Cymru yn dilyn ei datganiad diweddar o argyfwng newid yn yr hinsawdd; ac

·         y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiolch iddynt am y wybodaeth a ddarparwyd, ond gofyn a yw hyn yn golygu y byddent yn disgwyl i bob bwydlen ddyddiol mewn lleoliadau ysgol ac ysbyty gynnwys opsiynau bwyd llysieuol a fegan.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg i ofyn pa asesiad neu waith ymchwil sydd wedi ei wneud mewn perthynas â digonolrwydd yr opsiynau sydd ar gael ar fwydlenni ysbytai ac ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd i bobl sy'n dilyn deiet fegan.