Cyfarfodydd
P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5
PDF 53 KB Gweld fel HTML (5/1) 6 KB
- 05.08.20 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 5
PDF 244 KB
Cofnodion:
Yng ngoleuni'r diffyg cyswllt gan y deisebydd,
lansiad y Siarter Gwneud Lle ym mis Medi ac ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys
sefydliadau sy'n cefnogi pobl ddigartref mewn gwaith perthnasol ar y mater hwn,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a darparu manylion y dystiolaeth a
ystyriwyd gan y Pwyllgor i’r deisebwyr.
Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4
PDF 53 KB Gweld fel HTML (4/1) 6 KB
- 16.04.20 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4
PDF 241 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol i ofyn am aelodaeth Partneriaeth Creu Lleoedd Cymru a chael
sicrwydd y bydd sefydliadau priodol sy'n cefnogi pobl ddigartref yn cymryd rhan
yn y gwaith hwn, gyda'r bwriad o gau’r ddeiseb os ceir digon o sicrwydd.
Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 51 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 17.02.20 Gohebiaeth – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 341 KB Gweld fel HTML (3/2) 21 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol i rannu'r dystiolaeth a gafwyd oddi wrth elusennau ac i ofyn a
yw hi wedi ystyried ymhellach a ellid gwneud “cyfeiriad priodol at ddefnyddio
pensaernïaeth elyniaethus” mewn cyngor a chanllawiau ar gyfer gweithredu ‘agenda
creu lleoedd’ y Llywodraeth, fel y cyfeiriwyd ato o'r blaen, ac a fyddai hi'n
ystyried gwneud datganiad clir i awdurdodau lleol na ddylai nodweddion
pensaernïaeth elyniaethus gael eu defnyddio yng Nghymru.
Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 14.06.19 Gohebiaeth - Caer Las at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/2) 8 KB
- 14.06.19 Gohebiaeth - Caer Las at y Pwyllgor, Atodiad, Dadansoddiad o 2 wythnos o Holiaduron Cenedlaethol Cyfrif Rhai sy’n Cysgu ar y Stryd, Tachwedd 2018 (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 468 KB
- 14.06.19 Gohebiaeth – Shelter Cymru at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 120 KB Gweld fel HTML (3/4) 11 KB
- 21.06.19 Gohebiaeth – Crisis at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 415 KB
- 28.10.19 Gohebiaeth – Byddin yr Iachawdwriaeth at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 113 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru i ofyn am ei hymateb i’r materion a godwyd yn y ddeiseb a’r
dystiolaeth a ddaw i law hyd yn hyn.
Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3
PDF 51 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 27.03.19 Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3
PDF 274 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at elusennau
digartrefedd i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac effaith a
nifer yr achosion o bensaernïaeth elyniaethus i atal cysgu allan yng Nghymru.
Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-864 Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2
PDF 51 KB Gweld fel HTML (2/1) 6 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2
PDF 78 KB Gweld fel HTML (2/2) 39 KB
- Gohebiaeth – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd, Eitem 2
PDF 164 KB
- Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 28 KB Gweld fel HTML (2/4) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol i:
·
ofyn am ei
barn yn benodol mewn perthynas â rhinweddau ac ymarferoldeb galwad y ddeiseb am
wahardd neu foratoriwm ar y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus yng Nghymru;
·
gofyn iddi
ystyried cyflwyno nodyn cyngor technegol ynghylch y defnydd o bensaernïaeth
elyniaethus; a
·
gofyn iddi
pa fesurau rheoli ym maes cynllunio y gellid eu gweithredu er mwyn darparu
goruchwyliaeth agosach ar gread pensaernïaeth elyniaethus yn ôl-weithredol.