Cyfarfodydd

P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae'r Comisiynydd Plant wedi mynegi ei boddhad â statws statudol y canllawiau gwrth-fwlio newydd, sy'n cynnwys gofynion i ysgolion ddatblygu polisïau cadarn, a chofnodi a monitro. At hynny, mae hi wedi nodi y bydd ei swyddfa yn parhau i fonitro. Ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni ar hyn o bryd. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Sesiwn dystiolaeth:

·         Kirsty Williams AC, Gweinidog dros Addysg

·         Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru

·         Megan Colley, Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Diogelu, Llywodraeth Cymru

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn dystiolaeth: P-05-862 Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i dderbyn ei chynnig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i weithredu Hawliau, Parch, Cydraddoldeb, sef y canllawiau gwrth-fwlio newydd, yn dilyn ymarfer monitro yn y gwanwyn.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am sylwadau bellach gan Gomisiynydd Plant Cymru a'r deisebydd ar ôl cyhoeddi’r canllawiau.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-862 Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol ac, o ystyried cryfder y dystiolaeth a oedd wedi dod i law mewn perthynas â gwella’r modd roedd ysgolion yn ymateb i achosion o fwlio, cytunodd i ofyn i’r Gweinidog Addysg ymddangos gerbron sesiwn dystiolaeth ar y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i:

·         aros am gyhoeddiad canllawiau a phecyn gwrth-fwlio diwygiedig yn hwyrach yn y flwyddyn a’i rannu â’r deisebydd ar gyfer sylwadau;

·         gofyn am farn Comisiynydd Plant Cymru, elusennau a chynrychiolwyr ysgolion ynghylch digonolrwydd y polisi a’r rheoleiddio presennol mewn perthynas â bwlio mewn ysgolion, ac

·         archwilio ymhellach i sut y gall y Pwyllgor ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru ynglŷn â’r mater hwn.

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:

  • ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb i gynnig penodol y deisebydd ar gyfer fframwaith gwrth-fwlio ar gyfer Cymru gyfan, a fyddai'n cynnwys gofynion cyfreithiol cryfach ar gyfer ysgolion, ac yn ymwneud â chofnodi achosion o fwlio yn benodol; ac
  • ysgrifennu at Senedd Ieuenctid Cymru i'w gwneud yn ymwybodol o'r ddeiseb gyfredol a gofyn am farn yr Aelodau am fwlio mewn ysgolion.

 

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-862 - Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ddarparu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebydd;

·         gofyn iddi ddarparu asesiad o ddigonolrwydd dyletswyddau cyfreithiol cyfredol mewn perthynas ag atal a mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion; a

·         gofyn am linell amser ar gyfer pryd y bydd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwrth-fwlio ar gael.