Cyfarfodydd
NDM6950 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diwydiant Dur
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diwydiant Dur
NDM6950
David
Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r
buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r
diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
2. Yn cydnabod yr
heriau sy'n wynebu diwydiant dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol
i economi Cymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur
yn y DU o'i gymharu â chostau trydan yn yr UE.
Cyd-gyflwynwyr
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru)
Russell
George (Sir Drefaldwyn)
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Alun
Davies (Blaenau Gwent)
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.03
NDM6950 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r buddsoddiadau a wnaed gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru yn
ystod y blynyddoedd diwethaf.
2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant
dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi
sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol i economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â
chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur yn y DU o'i gymharu â chostau
trydan yn yr UE.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.