Cyfarfodydd

Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Strategaeth Pwysau Iach: Cymru iach

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cydnabyddiaeth o ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Pwysau Iach: Cymru Iach

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/05/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'

Papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.

 


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 14 Mawrth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Pwysau Iach: Cymru Iach - ystyried yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad. Bydd yr ymateb yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn ei ddyddiad cau, sef 12 Ebrill.

 


Cyfarfod: 14/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda'r Prif Swyddog Meddygol. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb drafft i'r ymgynghoriad yn ystod y cyfarfod ar 28 Mawrth.

 


Cyfarfod: 14/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach - sesiwn dystiolaeth

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru

Nathan Cook, Pennaeth y Gangen Byw'n Iach ac Egnïol – Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Swyddog Meddygol yng nghyswllt y strategaeth ddrafft.

2.3 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu gwybodaeth yn egluro faint o arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll diwydiant diodydd meddal.

 


Cyfarfod: 06/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Craffu ar strategaeth ‘Pwysau Iach: Iach Cymru’ - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a glywyd yn ystod trafodaethau gyda’r gweithgor.

 


Cyfarfod: 06/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Craffu ar strategaeth ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ - digwyddiad bord gron i’r gweithgor (drwy wahoddiad yn unig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y strategaeth ddrafft gyda rhanddeiliaid. Byddai’r dystiolaeth a glywid yn llywio’r sesiwn gyda’r Prif Swyddog Meddygol. Byddai’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad yn cael ei ddosbarthu i’r gweithgor ar gyfer sylwadau ac fe’i hystyrir mewn cyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 21/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - ymgynghoriad ar "Pwysau Iach: Cymru Iach"

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/02/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Pwysau Iach, Cymru Iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 14/02/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Pwysau Iach, Cymru Iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 30/01/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Dull o graffu ar y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ymgysylltu â grŵp bach o randdeiliaid a gwahodd y Prif Swyddog Meddygol i sesiwn dystiolaeth lafar.