Cyfarfodydd

P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ym mis Awst, ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu ei gasgliadau a'i argymhellion o'i waith craffu dilynol ar yr adroddiad Cadernid Meddwl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb

 

Yng ngoleuni gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar y pwnc hwn, a'r gwaith craffu manwl ar y mater hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dros y blynyddoedd diwethaf, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am godi deiseb ar y pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 03/04/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-087 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y mater hwn yng ngoleuni'r gwaith craffu parhaus y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei wneud yn sgil ei adroddiad Cadernid Meddwl a bodolaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogion ar y Cyd.


Cyfarfod: 14/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-857 Dylid creu tasglu cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

  • ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu ag ef y sylwadau ychwanegol a gafwyd gan y deisebwyr a gofyn am ei ymateb, yn enwedig mewn perthynas â'r sylwadau a'r cynigion a wnaed mewn perthynas â rôl Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion;

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y ddeiseb yng nghyd-destun eu gwaith parhaus ar y pwnc hwn yn dilyn yr adroddiad Cadernid Meddwl, a gofyn am unrhyw sylwadau sydd gan y Pwyllgor mewn perthynas â rôl a chwmpas Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion; a

·         gofyn am bapur ymchwil ar y gofynion presennol mewn perthynas â chynlluniau iechyd meddwl ar gyfer plant ac effeithiolrwydd y cynlluniau hynny.