Cyfarfodydd
Pwyllgorau - Y Bumed Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr, ac y bydd yr argymhellion yn cael eu dwyn i sylw'r
Pwyllgor Busnes newydd.
Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i’r pwyllgor gwrdd y tu allan i'r slot a drefnwyd iddo am y
tair wythnos nesaf, os oes angen.
Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 23/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddwy ddeiseb Canolfan Ganser Felindre ar 3
Mawrth, a dadl ar 'P-05-1056 Rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad
dai mewn ardaloedd gwledig a thwristiaeth yng Nghymru' ar 17 Mawrth.
Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl 30 munud ar ddwy ddeiseb – 'P-05-1117 Rhoi'r
Brechiad Covid i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth' a 'P-05-1119
Blaenoriaethu athrawon, staff ysgol a gofal plant ar gyfer brechiad COVID-19',
a dadl 30 munud arall ar 'P-05-1078 Cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae
angen newid!
Cyfarfod: 19/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar slotiau cyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn yr wythnosau
gwarchodedig.
Cyfarfod: 19/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr.
Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad drefnu cyfarfodydd y tu allan i'w slot
rheolaidd yn ystod yr wythnosau’n cychwyn 25 Ionawr, 1 Chwefror ac 8 Chwefror
os oes angen.
Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor i drefnu 'Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad i gyfleusterau ar
gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud' am 60
munud ar 13 Ionawr, gan gymryd lle'r ddadl a drefnwyd yn flaenorol: P-05-1032
Deddfu i atal pobl rhag newid enwau Cymraeg tai, ac aildrefnu'r ddadl honno i
20 Ionawr 2021, ac aildrefnu dadleuon y gwrthbleidiau yn unol â hynny.
Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Cytunodd Rheolwyr
Busnes i gyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ar 16 Rhagfyr.
Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr yn gofyn am ddadl ar ddeiseb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb ar 13 Ionawr 2021.
Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Newid y trothwy ar gyfer ystyried cynnal dadl ar ddeisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn
nodi barn y Rheolwyr Busnes ynghylch newid y trothwy ar gyfer ystyried dadleuon
ar ddeisebau.
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - tynnwyd yn ôl
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 55
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar amserlen ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Llun, 30 Tachwedd.
Cyfarfod: 10/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Amserlen y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer tymor y gwanwyn 2021 a'r addasiadau i'r
amserlen bresennol.
Cyfarfod: 10/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i'r cais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i gwrdd yn ystod
yr wythnos yn cychwyn 3 Awst 2020.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Amserlen y Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau arfaethedig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus gwrdd yn ystod y toriad.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes â dealltwriaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad o ran amseriad rheoliadau sy'n debygol o gael eu dwyn ymlaen yn
dilyn adolygiadau 3 wythnos Llywodraeth Cymru.
Eglurodd y
Trefnydd, er bod llythyr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
yn cyfeirio at yr adolygiad tair wythnos o gyfyngiadau yn unig, mae cyfres
ehangach o reoliadau COVID-19 na'r rhai sy'n ymwneud ag iechyd (ee addysg).
Dywedodd y Trefnydd y bydd angen i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad fod yn barod i adrodd ar y rheini hefyd.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Sefydlu ac aelodaeth arfaethedig Pwyllgor y Llywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadw'r pwyllgor
yn fach, ac i'r perwyl hwnnw dylai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid gynrychioli eu
grŵp yn ogystal â'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyrau gan gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: yn gofyn am ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 79
- Cyfyngedig 80
- Cyfyngedig 81
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y ceisiadau a chytunwyd i drefnu dadleuon y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a'r Pwyllgor Deisebau am hanner awr yr un
ar 8 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drefnu dadl y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg am awr ar 15 Gorffennaf.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Amserlen Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 84
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen
ddiwygiedig ar gyfer y pwyllgorau. Gwahoddodd y Pwyllgor Gadeiryddion y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ystyried
galw'r cyfarfodydd y maent am eu cynnal yn ystod y toriad yn ystod yr wythnos
yn cychwyn 3 Awst 2020 i alinio â'r Cyfarfod Llawn. Gofynnodd y Trefnydd i'r
pwyllgorau fod yn ymwybodol na fydd Gweinidogion ar gael i roi tystiolaeth i
unrhyw gyfarfodydd a gynhelir yn ystod y toriad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i'r cais gan
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gwrdd am awr brynhawn
dydd Mawrth 30 Mehefin i ddarparu ar gyfer presenoldeb Ysgrifennydd Gwladol
Cymru.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar effeithiau COVID-19 ar economi, seilwaith a
sgiliau Cymru ar gyfer dydd Mercher 1 Gorffennaf 2020.
Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Sefydlu ac aelodaeth arfaethedig Pwyllgor y Llywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 94
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ynghylch aelodaeth Pwyllgor y Llywydd
a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod yr wythnos nesaf.
Nodwyd
hefyd yr amserlen arfaethedig ar gyfer sefydlu Pwyllgor y Llywydd, fel y nodir
yn Atodiad 2 y papur.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 97
- Cyfyngedig 98
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 103
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd y bydd Fforwm y Cadeiryddion yn trafod y
mater ehangach o gyfarfodydd pwyllgorau o bell yn ei gyfarfod yn ddiweddarach
yr wythnos hon.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 106
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl am 30 munud yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 109
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau amserlennu gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Cais i sefydlu Pwyllgor y Senedd ar Covid-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 114
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur. Roedd
Darren Millar a Siân Gwenllian o blaid ac roedd y Trefnydd a Caroline Jones yn
erbyn, felly barn y mwyafrif oedd yn erbyn y cais i gyflwyno cynnig i sefydlu'r
pwyllgor.
Roedd y Rheolwyr Busnes yn cytuno ei bod yn
bwysig ystyried Covid-19 mewn ffordd drawsbynciol a chytunwyd i ofyn i'r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gwrdd yn fuan ar ddechrau'r hanner
tymor hwn. Gwnaeth Caroline Jones gais i bob grŵp gael ei gynrychioli ar
unrhyw bwyllgor sy'n cynnal gwaith craffu trawsbynciol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ei bod yn
bwysig craffu ar y gwaith adfer ar ôl Covid-19, a gaiff ei arwain gan y Cwnsler
Cyffredinol. Gofynnwyd i'r swyddogion ystyried ble o fewn cylch gwaith
presennol y pwyllgorau roedd y cyfrifoldeb hwn, ac i ymgynghori ar y mater â
Fforwm y Cadeiryddion.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Amserlen y Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 121
- Cyfyngedig 122
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd mewn egwyddor i'w
gais am slot darlledu wythnosol. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion ymchwilio
a fyddai'n bosibl a sut y byddai'n bosibl darparu hyn, a chytunwyd i ddychwelyd
at y mater yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 27/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 27/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Amserlen y Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 131
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes yr amserlen ddrafft ar gyfer y pwyllgorau, a chytuno
arni. Nododd y Pwyllgor y byddai'n trafod amserlen dreigl ym mhob
cyfarfod, ac y rhagwelir eisoes y bydd newidiadau i rai slotiau ar gyfer
trydedd a phedwaredd wythnos yr amserlen. Cadarnhaodd y Pwyllgor hefyd mai'r
amser sydd ar gael o hyd ar gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid yw 11.00 - 12.30 ar
ddydd Mawrth.
Cyfarfod: 17/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Ailddechrau Gweithgareddau Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 134
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ailddechrau gweithgareddau pwyllgorau ar gyfer busnes yn
ymwneud â materion Covid-19, rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a
busnes arall sy'n hanfodol o ran amser. Byddai amserlen pwyllgor pedair
wythnos dreigl yn cael ei datblygu, mewn ymgynghoriad â chadeiryddion
pwyllgorau.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
ailafael yn ei gyfrifoldebau o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Cytunwyd hefyd
y gallai'r Pwyllgor, ynghyd â Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a'r
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddechrau gwneud
trefniadau i gwrdd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 27 Ebrill.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y bydd y Llywydd yn galw cyfarfod Fforwm y Cadeiryddion yr
wythnos nesaf. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes a gaiff y Cadeiryddion drafodaeth
gydag aelodau'r pwyllgor cyn y cyfarfod er mwyn sicrhau'r mewnbwn a'r
ymgysylltiad ehangaf posibl. Cafodd y Rheolwyr Busnes hefyd eu hannog gan y
Llywydd i fynd i gyfarfod Fforwm y Cadeiryddion.
Cyfeiriodd
y Rheolwyr Busnes at y cyfyngiadau capasiti sy'n gysylltiedig â chefnogi
cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir y pwyllgorau cyhoeddus, gan gyfyngu gweithgaredd
i un cyfarfod pwyllgor ar unrhyw adeg.
Cyfarfod: 17/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 139
Cofnodion:
Yn amodol ar gyfarwyddyd cyffredinol i
bwyllgorau ganolbwyntio ar fusnes hanfodol, cytunodd y Rheolwyr Busnes y
gallai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd y tu allan
i'w slot arferol i hwyluso tystiolaeth gan Weinidogion.
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cynnig i newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 146
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes fod y Comisiwn Cyfiawnder diweddar yng Nghymru wedi argymell y dylai'r Cynulliad
chwarae rhan fwy rhagweithiol wrth graffu ar weithrediad y system gyfiawnder a
monitro ac adolygu cynnydd ar ddiwygio cyfiawnder.
Cytunodd y
Pwyllgor i gynnig i'r Cynulliad bod enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol yn cael ei newid i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad - Legislation, Justice and Constitution Committee - gan ychwanegu
cyfeiriad at gyfiawnder yn ei gylch gwaith.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod swyddogaethau mewn perthynas
â chyfiawnder sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac o fewn cylch gwaith
pwyllgorau eraill - megis gwasanaethau i gefnogi troseddwyr, cyn-droseddwyr ac
i hyrwyddo adsefydlu sy'n ymwneud â thai, addysg a hyfforddiant, datblygu
economaidd a llywodraeth leol - yn parhau i fod yn rhan o gyfrifoldebau'r
pwyllgorau hynny.
Cyfarfod: 10/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Aelodaeth, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau, gan gynnwys d'Hondt
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 149
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a
chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod ar 22
Ionawr 2020.
Cyfarfod: 10/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 154
Cofnodion:
Penderfynodd y Pwyllgor y gallai aelodau'r Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu adael y Cyfarfod Llawn ar 27 Tachwedd i
deithio i Wrecsam dim ond ar ôl i'r Amser Pleidleisio gael ei gynnal.
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 159
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais i'r Pwyllgor gwrdd y tu allan i'r amser a nodir ar yr
amserlen yn ystod wythnos 21 Hydref.
Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 164
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddyrannu cadeirydd y pwyllgor newydd i'r
grŵp Llafur heddiw. Cytunwyd hefyd y dylai aelodaeth y pwyllgor fod yn un
aelod o bob grŵp yn ychwanegol at y cadeirydd. Esboniodd Darren Millar na
fyddai'r grŵp Ceidwadol yn enwebu aelod i gymryd y lle hwnnw.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd y byddai enwebiadau ar gyfer y cadeirydd a'r bleidlais
gudd (os bydd angen) yn digwydd yfory. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried
gofyn i'r rhai a gaiff eu henwebu wneud anerchiad byr yfory.
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 169
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr ac ailadroddodd yr angen i Aelodau drin pwyllgorau
fel blaenoriaeth a bod yn brydlon. Cytunwyd y byddant yn ystyried cyhoeddi
ffigurau presenoldeb unigol os na fydd y sefyllfa'n gwella. Cytunwyd hefyd bod
gan Gadeiryddion rôl i'w chwarae o ran siarad ag Aelodau nad ydynt yn bresennol
neu sy'n cyrraedd yn hwyr / yn gadael yn gynnar heb eglurhad.
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 172
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i drefnu dadl.
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 175
Cofnodion:
Dywedodd
Darren Millar wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'r grŵp Ceidwadol yn
gwrthwynebu sefydlu'r pwyllgor ac na fyddai'n cymryd rhan ynddo pe bai'n cael
ei sefydlu.
Ceisiodd y
Llywydd annog y grŵp Ceidwadol i barhau i gymryd rhan mewn trafodaethau ar
y mater. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod materion yn ymwneud ag aelodaeth a
chadeirio y tu allan i'r pwyllgor a dychwelyd atynt yr wythnos nesaf i wneud
penderfyniad.
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
The establishment of a Committee on Assembly Electoral Reform
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 180
Cofnodion:
Business
Managers agreed to seek the Assembly’s agreement to establish a Committee on
Assembly Electoral Reform early in the autumn, and to table a motion to that
effect for consideration on 18 September.
They
noted that discussions about the chairing of the Committee are ongoing, but
supported the principle of the Chair being agreed by resolution of the
Assembly, rather than elected by secret ballot. They also supported the
principle of all groups being represented on the Committee, whilst keeping it
small. They agreed to discuss potential membership with their groups, with a
view to agreeing the membership and Chair at the first Business Committee of
the autumn term, with motions being put to Plenary in the second week.
Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 03/07/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Presenoldeb Gweinidogion yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a gynhelir ar ddydd Llun
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 185
Cyfarfod: 03/07/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.3)
Trafod y newidiadau i aelodaeth pwyllgorau fel y trafodwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Busnes - Eitem lafar
Cyfarfod: 03/07/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.2)
Adroddiad Blynyddol ar Ddata Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 188
Cyfarfod: 03/07/2019 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 5.6)
Y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Presenoldeb Gweinidogion yng nghfarfodydd y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 190
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 194
Cofnodion:
Business
Managers agreed the request to schedule a debate for petition P-05-869 Declare
a Climate Emergency and fit all policies with zero-carbon targets, but asked
for further information on how the decision to ask for a debate on a petition is
made, noting that a large number of petitions with over 5,000 signatures had
not led to requests for a debate.
Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am ddadl ar - cais am ddadl ar 3 Ebrill
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 197
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cais gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am gyfarfod ychwanegol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 202
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cyfarfod: 12/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 209
Cofnodion:
Cais gan y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gyfarfod y tu allan i'w
amser cyfarfod penodedig
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 212
Cofnodion:
Cais gan y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfarfod y tu allan i'w amser cyfarfod penodedig
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 217
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ganiatáu cyfarfodydd ychwanegol y tu allan i amser y pwyllgor
i ystyried yr adroddiad gan y Comisiynydd Dros Dro.