Cyfarfodydd

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2018-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - Adroddiad ar Alldro 2018-19

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19

NDM6964 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2019.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

vi. manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

21

1

50

Derbyniwyd y cynnig.

Cyfarfod: 20/02/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â mân newidiadau.

Cyfarfod: 14/02/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cyfarfod: 14/02/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolau Cyllid

Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllid

Papur 1 – Cynnig y Gyllideb ar gyfer Ail Gyllideb Atodol 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolau Cyllid; a Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllid.