Cyfarfodydd

NDM6915 Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20

NDM6915 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;

b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac

c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

NDM6915 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;

b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac

c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.