Cyfarfodydd

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i’w chau yng ngoleuni’r ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd, a llongyfarchodd y deisebwyr am eu gwaith wrth geisio cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

 


Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Dadl ar Ddeiseb P-05-854 - Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

NDM7177 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-854 Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai’ a gasglodd 5,654 o lofnodion

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

NDM7177 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-854 Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai’ a gasglodd 5,654 o lofnodion

P-05-854 Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Oherwydd nam technegol, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 16.39 am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5munud cyn ailgynnull.

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn am amser i drafod y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref, o gofio ei bod wedi derbyn mwy na 5000 o lofnodion.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros tan y cyhoeddiad a ddisgwylir ynghylch cyllid i gefnogi'r Rhaglen Gwella Bywydau a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhelir gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o fanylion am y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysbytai o dan y Rhaglen Gwella Bywydau, blaenoriaethau Grŵp Cynghori'r Gweinidog, a gofyn am farn y Llywodraeth am ba mor werthfawr y byddai gwneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol i staff ysbytai; a
  • cheisio rhagor o wybodaeth am ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar gynigion i wneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol i'r holl staff iechyd a gofal yn Lloegr.